Galw mawr am Fyfyrwyr Peirianneg Forol
Mae'r adran Peirianneg Forol yng Ngholeg Llandrillo wedi ffurfio partneriaeth gydag un o'r enwau mwyaf yn y diwydiant llongau pleser rhyngwladol.
Bydd y coleg a'r Grwp Travelopia - dau bwerdy addysg a diwydiant - yn rhannu eu hadnoddau i helpu recriwtio peirianwyr talentog i fod yn dechnegwyr ar longau pleser ym Môr y Canoldir a Môr y Caribî.
Mae'r grŵp Travelopia yn cynrychioli dau o'r enwau mwyaf yn y diwydiant llongau pleser rhyngwladol: Sunsail a The Moorings. Travelopia yw un o gwmnïau siarter mwyaf y byd gyda chanolfannau o gwmpas y byd. Mae ganddynt lynges o dros 600 o longau sy'n cynnwys llongau ungragen, catamaráns a chatamaráns pŵer.
Crëwyd argraff ar arbenigwr recriwtio Travelopia Group Sophie Hygate gan yr ystod o sgiliau a gynigir gan adran Peirianneg Forol y coleg. Meddai: "Mae cynnal a chadw ein llongau mewn cyflwr da'n flaenoriaeth, felly mae ein technegwyr yn rhan hanfodol o'n tîm. Mae'r cyrsiau technegol a gynigir yng Ngholeg Llandrillo yn gweddu i'r dim ar gyfer yr hyn rydym yn chwilio amdano o ran hyfforddiant i'n technegwyr.
"Edrychaf ymlaen at ymweld â'r coleg i gyfweld ymgeiswyr ar gyfer swyddi technegwyr morol yng Ngwlad Groeg a Croatia'r tymor nesaf."
Ychwanegodd Andy White, Cydlynydd y cyrsiau Morol yng Ngholeg Llandrillo: "Ar hyn o bryd, mae mwyafrif ein dysgwyr yn mynd ymlaen i'r llynges fasnachol neu'r sectorau ynni alltraeth, felly mae'n gyffrous i sefydlu llwybr i'r sector siarter a llynges fach. Gan fy mod wedi gweithio i'r sector hwn o'r diwydiant o'r blaen, rydw i'n gwybod y gall gynnig heriau cyffrous a chyfleoedd gwych i deithio." Mae hwn yn gyfle gwych i'n dysgwyr.
"Sunsail efallai yw'r darparwr gwyliau hwylio mwyaf ac maent yn cynnig i'w staff ddatblygiad a dilyniant parhaus. Gall myfyrwyr newydd gael eu cyflogi i weithio dros yr haf yng Ngwlad Groeg neu Croatia cyn dychwelyd i gwblhau eu cymwysterau Lefel 2 a 3, ac ar gyfer myfyrwyr sy'n parhau mae swyddi mwy parhaol a lleoliadau eraill ar gael."