Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Amaeth Glynllifon yn ymweld a Chanolfan Technoleg Bwyd Llangefni.

Yn ddiweddar aeth myfyrwyr amaethyddiaeth Coleg Glynllifon ar ymweliad arbennig i Ganolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo-Menai ar gampws Llangefni.

Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn darparu ystod eang o gyfleoedd hyfforddi i gefnogi unigolion sy'n gweithio ar bob lefel o fewn busnesau bwyd. Sefydlwyd y Ganolfan Technoleg Bwyd (CTB) yn 1999 ac mae’n chwarae rôl allweddol o drosglwyddo gwybodaeth i'r diwydiant bwyd yng Nghymru, ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Mae gan y Ganolfan dair neuadd brosesu yn ogystal â chegin brofi a ddefnyddir yn bwrpasol i ychwanegu gwerth i gig a physgod, cynnyrch llaeth a chynnyrch gardd. Ym mhob neuadd brosesu ceir ystod eang o offer modern ar raddfa ddiwydiannol a ddefnyddir i ddatblygu a threialu cynnyrch newydd. Gellir defnyddio'r labordy sydd ar y safle er mwyn cael canlyniadau cywir i'w rhoi ar labeli a datganiadau maeth.

Dywedodd Rhodri Manod Owen, Rheolwr Fferm Coleg Glynllifon.

“Mae diwydiant prosesu bwyd yn un sydd yn tyfu blwyddyn ar ôl blwyddyn yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol o dwf sylweddol yn y diwydiant yn ystod y degawdau nesaf. Mae gennym fel un o brif sefydliad addysgol amaethyddol yng Nghymru rôl ganolog i’w chware yn y twf hwnnw.”

“Mae cysylltiadau amlwg rhwng y coleg a’r ganolfan technoleg bwyd, ac mae gosod y cyfleoedd i’n myfyrwyr ddysgu am hynny yn hynod o bwysig i ni fel coleg. Hynny yw, bod yr addysg yn cwmpasu pob cam o gynhyrchu bwyd, o’r caeau ar ystâd Glynllifon yr holl ffordd drwy’r holl brosesau i’r cwsmer.”

Gyda chynlluniau uchelgeisiol ar y gweill i greu hwb economi wledig nodedig o'r radd flaenaf ar ystâd Glynllifon ger Caernarfon, fydd yn darparu cyfleusterau safonol ar gyfer cynhyrchu bwyd ar y safle i fusnesau newydd, mae’r bartneriaeth rhwng y coleg a’r ganolfan yn sicr o dyfu a datblygu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Am fwy o wybodaeth am holl gyrsiau Coleg Glynllifon, cliciwch ar y linc isod

https://www.gllm.ac.uk/locatio...