Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr wedi ei Ddewis i Fynychu COP26 yn Glasgow!

Dewiswyd myfyriwr o Goleg Menai i gynrychioli pobl ifanc Cymru yn yr uwch gynhadledd COP26 y mis nesaf.

Mae Clara Newman, sy'n astudio Celf a Dylunio Lefel 3 ym Mharc Menai, hefyd yn Llysgennad Hinsawdd dros Ieuenctid ar gyfer Cymru - grŵp o ddim ond 12 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru sydd yn Selogion dros yr Hinsawdd ac yn ymladd dros Gyfiawnder ym Maes Hinsawdd.

Bydd cynhadledd COP26, a gynhelir o Hydref 31 Hyd Dachwedd 12 2021, yn dod a phartïon at ei gilydd i gyflymu'r gweithredu tuag at nodau Cytundeb Paris a Chonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd.

Bydd Clara yn mynychu digwyddiadau yn y "Parth Gwyrdd", wedi ei chefnogi gan staff o "Maint Cymru" lle bydd yn creu cynnwys ar gyfer blogiau, podlediadau ac yn ffilmio ei phrofiadau o fod yn rhan o'r uwchgynhadledd. Bydd y llysgenhadon hinsawdd hefyd yn cynnal digwyddiad panel yn y Parth Gwyrdd ar Dachwedd 10fed.

Dywedodd Clara, "Mae'n dda gen i gynrychioli ieuenctid Cymru yn COP26. Mae'n teimlo fel cyfrifoldeb mawr a gobeithiaf, fel llysgenhadon hinsawdd, y medrwn wneud gwahaniaeth bach i greu byd mwy cynaliadwy".

Dywedodd Fflur Rees Jones, Pennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Menai "Fel coleg, rydym yn falch iawn o gyflawniad Clara a dymunwn yn dda iddi yn y rôl allweddol hwn. Bydd Clara yn cynrychioli pobl ifanc Cymru a bydd yn chwarae rôl amhrisiadwy wrth annog ac uno’r cymunedau ehangach i wynebu'r her o newid hinsawdd".

I ddarganfod mwy am yr uwchgynhadledd COP26, cliciwch yma.