Coleg Meirion-Dwyfor yn agor salon trin gwallt newydd yn Nolgellau
Cafodd gwesteion weld arddangosfa L'Oréal yn tynnu sylw at y lliw mwyaf poblogaidd yn 2025 yn ystod agoriad swyddogol y salon, yn ogystal ag ymgynghoriadau gwallt am ddim, bagiau nwyddau a thaith o amgylch y cyfleuster newydd o'r radd flaenaf
Agorwyd salon gwallt a harddwch newydd Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau yn swyddogol yr wythnos diwethaf, gyda chwmni L'Oréal yn dangos eu cynnyrch lliwio gwallt 'Mocha Mousse', y lliw poblogaidd yn 2025.
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan Vikki Millar, arweinydd proffesiynol Colegau L'Oréal, ar y bartneriaeth rhwng y coleg a'r brand harddwch byd-enwog.
Cafodd gwesteion eu tywys o amgylch y salon o'r radd flaenaf ac roeddent yn gallu cael ymgynghoriad gwallt am ddim, yn ogystal â chael bagiau nwyddau a oedd yn cynnwys cynhyrchion, goleuadau hunlun a thalebau ar gyfer triniaethau gwallt a harddwch.
Agorwyd y salon yn swyddogol gan Bennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai, Dr Siôn Peters-Flynn.
Yn dilyn y Pennaeth yn croesawu pawb, siaradodd Vikki Millar am sut mae partneriaeth y coleg â L'Oréal yn helpu dysgwyr i fireinio eu sgiliau a datblygu eu gyrfaoedd.
Yna cafwyd cyflwyniad gan Emma Holmes, ymgynghorydd addysg L'Oréal, sy'n gweithio'n agos gyda staff a myfyrwyr yn y coleg.
Gyda chymorth modelau wedi'u steilio gan ddysgwyr gwallt a harddwch, dangosodd Emma'r lliw Mocha Mousse poblogaidd a sut i'w gynnwys mewn steiliau modern gan ddefnyddio cynhyrchion L'Oréal. Roedd y modelau'n gwisgo dillad o siop CoCo yn Nolgellau, noddwyr y digwyddiad.
Yn dilyn y cyflwyniadau, cafodd y gwesteion gyfle i ofyn cwestiynau, mynd o gwmpas y salon a chael ymgynghoriad am eu gwallt. Fe wnaethon nhw hefyd fwynhau canapés a wnaed yn y coleg gan fyfyrwyr lletygarwch, gan gynnwys profiteroles mewn amrywiaeth o flasau fel 'banana a Biscoff' a 'siocled oren'.
Dywedodd Eifion Owen, Rheolwr Diwydiannau Gwasanaethu yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: “Rydym i gyd yn hynod falch o lwyddiant lansio'r salon trin gwallt a harddwch mewn cydweithrediad â L'Oreal.
“Mae’r cyfleuster wedi’i adnewyddu i efelychu steil a hyblygrwydd un o’r salonau gorau ym Manceinion yr ymwelodd y dysgwyr â hi cyn Covid.
“Rydym ni'n ddiolchgar iawn i L'Oréal am ein cydweithrediad parhaus sy'n caniatáu i'n dysgwyr ddatblygu eu sgiliau i'r safonau uchaf, ac i CoCo Clothing, Dolgellau, am eu haelioni'n noddi'r digwyddiad. Roedd y lansiad yn brofiad llwyddiannus a phroffesiynol iawn i'n holl ddysgwyr a'n gwesteion.”
Gall aelodau o'r cyhoedd drefnu apwyntiadau yn y Salon yn Nolgellau i gael amrywiaeth o wasanaethau trin gwallt, gan gynnwys ei dorri, ei liwio, ei chwyth-sychu neu ei byrmio. Cynigir apwyntiadau ar gyfer triniaethau harddwch hefyd, fel siapio'r aeliau, tylino'r wyneb, ffeilio a sgleinio'r ewinedd a thriniaethau i'r dwylo a'r traed.
Ffoniwch 01341 424 922 i drefnu apwyntiad. Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Iau, 1.30-3.45pm, dydd Gwener 9.30-11.45am a 1.30-3.45pm.
Ydych chi eisiau gweithio ym maes trin gwallt, barbwr neu therapi harddwch? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn darparu hyfforddiant mewn salonau o'r radd flaenaf gan ddefnyddio'r technegau a'r cynhyrchion diweddaraf. Dysgwch ragor yma.