Partneriaeth rhwng Grŵp Llandrillo Menai a Heddlu Gogledd Cymru i gynnig hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain
Mae aelodau Heddlu Gogledd Cymru yn dysgu Iaith Arwyddion Prydain diolch i gyrsiau sy'n cael eu cyflwyno gan Grŵp Llandrillo Menai.
Cwblhaodd 10 o staff gwrs pum wythnos, a ddatblygwyd gan diwtoriaid Iaith Arwyddion Prydain arbenigol Coleg Llandrillo, wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer sefyllfaoedd plismona, gan sicrhau eu bod yn meithrin sgiliau y gellir eu defnyddio yn eu rolau dyddiol.
Mae Jack Mitchelmore, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, eisoes wedi manteisio ar y cyfle i ddefnyddio ei sgiliau newydd yn y gymuned. Dywedodd: “Fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, mae angen i mi feithrin perthnasoedd cryf ac ymgysylltu â holl aelodau’r gymuned.
“Mae’r cwrs hwn wedi rhoi’r hyder i mi gyfathrebu’n well â’r rhai yn y gymuned fyddar a’u cefnogi'n well hefyd.”
Ar ôl gorffen y cwrs, cyflwynwyd bathodynnau i'r swyddogion a'r staff i'w gwisgo yn y gwaith i ddangos eu bod wedi'u hyfforddi mewn Iaith Arwyddion Prydain.
Parhaodd Jack: “Rydw i eisoes wedi rhoi’r hyn rydw i wedi’i ddysgu ar waith ar ddau achlysur tra ar batrôl.
“Yn gyntaf, arwyddo gyda rhiant a’u plentyn ac yna eto gyda theulu o Birmingham yn ymweld â Llanberis gyda’u mab byddar.
“Ar y ddau achlysur, cafodd y teuluoedd eu synnu ar yr ochr orau gan fy ngwybodaeth sylfaenol o’r iaith ac fe wnaethon nhw fy annog i barhau i ddysgu.
“Mae gallu cael hyd yn oed sgwrs sylfaenol yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran gwneud i rywun deimlo ei fod yn cael ei glywed a’i ddeall.”
Ychwanegodd Martin Walker, Rheolwr Dysgu Gydol Oes Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym yn falch o gydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ar y rhaglen hyfforddi hanfodol hon.
Fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i gynhwysiant a dysgu gydol oes, rydym yn cydnabod yr effaith y gall gwell cyfathrebu ei chael ar unigolion a chymunedau.
Mae'r fenter hon yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i gael gwared ar y rhwystrau i gyfathrebu a hyrwyddo hygyrchedd i bawb."
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Llinos Davies: “Rwy’n croesawu’r bartneriaeth hon sy’n tanlinellu ymroddiad Heddlu Gogledd Cymru a Grŵp Llandrillo Menai i wneud Gogledd Cymru yn ardal lle mae pawb, waeth beth fo’u hanghenion cyfathrebu, yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u cefnogi.
"Dwi'n gwbl sicr y bydd y rhaglen hon yn rhoi’r hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen ar swyddogion i ymgysylltu ymhellach a chryfhau'r rhyngweithio â’r gymuned fyddar, boed yn gyswllt arferol neu’n ymatebion brys.
"Mae’r fenter hon yn gam hollbwysig tuag at feithrin cynhwysiant a sicrhau bod pob aelod o’n cymuned yn teimlo ei fod yn cael ei glywed a’i gefnogi.
Yn dilyn llwyddiant y cwrs cychwynnol, bydd cyrsiau Iaith Arwyddion Prydain eraill yn cael eu cyflwyno yn y misoedd nesaf i fod o fudd pellach i aelodau'r gymuned fyddar ledled Gogledd Cymru.
Edrychwch ar yr ystod o gyrsiau Iaith Arwyddion Prydain sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai yma.