Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tomos, sy'n Brentis Ryanair, yn profi llwyddiant ar ôl cwrs peirianneg

Mae Tomos Jones, cyn-fyfyriwr Coleg Meirion-Dwyfor, wedi gweld ei yrfa'n esgyn ar ôl iddo gael prentisiaeth gyda Ryanair Engineering.

Mae Tomos, sy'n 19 oed, wedi cael cytundeb pedair blynedd gyda'r cwmni hedfan yn gweithio ym Maes Awyr Stansted, ac mae ar ei ffordd i fod yn beiriannydd cynnal a chadw awyrennau cymwys ar ôl cael ei ddewis o fwy na 1,000 o ymgeiswyr.

Cwblhaodd gwrs Peirianneg Gyffredinol Uwch Lefel 3 yn llwyddiannus ar gampws Hafan ym Mhwllheli, ei dref enedigol. Roedd hyn yn cynnwys 16 o bynciau, Bagloriaeth Cymru, sgiliau gweithdy Cyflawni Gwaith Peirianneg a 150 awr o brofiad gwaith ymarferol.

Flwyddyn ar ôl i Tomos gwblhau ei gwrs, fe gyfarfu Emlyn Evans y darlithydd peirianneg ag ef i ddarganfod beth mae wedi bod yn ei wneud.

Meddai wrth Emlyn: "Rydw i ar gontract pedair blynedd gyda Ryanair, yn dilyn cwrs dwy flynedd gyda nhw i ennill tystysgrif Categori A'r Awdurdod Hedfan Sifil, a Lefel 3 mewn cynnal a chadw awyrennau.

"Mae'r tebygrwydd rhwng y cwrs hwn â'r hyn a astudiais yn yr Hafan wedi cyfrannu at fy llwyddiant wrth i mi ragori yn y rhaglen. Yn ogystal, mae’r cyfle i ennill cyflog wrth ddysgu wedi bod yn anhygoel, ac rwy’n rhagweld y byddaf yn dod yn beiriannydd cynnal a chadw awyrennau cwbl gymwys heb ddyled.”

Dywedodd Tomos fod y profiadau a gafodd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor wedi ei helpu i fod uwchlaw'r gweddill o ran proses ddewis prentis Ryanair.

Dywedodd: “Ar ôl cwblhau fy TGAU, cofrestrais ar gwrs peirianneg gyffredinol Lefel 3 ar gampws Hafan.

“Roedd y penderfyniad yma'n deillio o fy ansicrwydd ynghylch pa lwybr peirianneg i’w ddilyn. Yn ffodus, roedd y cwrs hwn yn cwmpasu ystod eang o sectorau, gan fy helpu i ddarganfod y rhai sy’n gweddu orau i’m diddordebau a’m dawn.

Am fwy o wybodaeth am y cyrsiau Peirianneg Lefel 2, 3 a 4 sydd ar gael yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli a Dolgellau, cysylltwch ag Emlyn Evans drwy e-bost (evanse12e@gllm.ac.uk ) neu cliciwch yma.

⁠“Yr hyn oedd yn wirioneddol apelio ataf am y cwrs hwn oedd y cyfuniad amrywiol o ddulliau asesu. Gwerthfawrogais y cyfle i arddangos fy nysgu trwy gyfuniad o arholiadau, aseiniadau, a gwaith ymarferol. Roedd y cymwysiadau a'r aseiniadau ymarferol yn caniatáu imi ddangos fy nealltwriaeth o gysyniadau peirianneg mewn modd mwy diddorol a chreadigol.

"Aseiniadau oedd y prif ddull o asesu yn ystod y cwrs, ac roeddwn yn eu gweld yn hynod gyffrous fel darpar beiriannydd. Yn wahanol i arholiadau sydd ag atebion cywir cyfyngedig, mae aseiniadau yn annog creadigrwydd, gan ein galluogi i ddyfeisio atebion unigryw i broblemau amrywiol. Fe wnaeth y dull hwn feithrin ein gallu i feddwl yn feirniadol ac yn ddadansoddol, gan ein paratoi ar gyfer heriau peirianneg y byd go iawn.

“Roedd cyfleusterau gweithdy’r Hafan yn eithriadol, gan ddarparu ystod gynhwysfawr o beiriannau ac offer ar gyfer peiriannu a gosod ar fainc.

“Roedd y profiad ymarferol hwn yn wefreiddiol ac yn bleserus, gan i mi allu profi amgylchedd cwbl newydd. Roedd y cyfle i drosi gwybodaeth ddamcaniaethol yn gymwysiadau ymarferol yn amhrisiadwy ac yn darparu profiad dysgu anghyffredin.”

Canmolodd Tomos y tiwtoriaid yng Ngholeg Meirion-Dwyfor am eu hymroddiad, gan ddweud: “Trwy gydol y cwrs, cynigiodd y tiwtoriaid gefnogaeth heb ei hail, gan fynd y filltir ychwanegol i gynorthwyo myfyrwyr ar ôl oriau dysgu, a phennu tasgau a oedd yn ein paratoi’n effeithiol ar gyfer ein haseiniadau.

“Fe wnaeth eu hymroddiad a’u harweiniad gyfrannu’n sylweddol at ein llwyddiant a’n twf fel darpar beirianwyr.”

Ychwanegodd: “Diolch i’r cwrs hwn, rwyf wedi ennill y cymwysterau perffaith i symud ymlaen ymhellach yn fy ngyrfa.

“Gyda Lefel 3 a thystysgrif Cyflawni Gwaith Peirianneg, fe wnes i sefyll allan yn ystod y cais am brentisiaeth gyda Ryanair. Er bod y broses ymgeisio yn heriol, chwaraeodd fy ngwybodaeth beirianyddol gynhwysfawr a thechnegau ateb cwestiynau effeithiol o Fagloriaeth Cymru ran hanfodol wrth sicrhau fy safle ymhlith y 10 ymgeisydd gorau allan o fwy na 1,000 o ymgeiswyr.”

Dywedodd Nadine Houghton, cydlynydd rhaglen hyfforddi Ryanair Engineering: “Mae Tomos wedi gwneud dechrau rhagorol i’w brentisiaeth wedi iddo ymuno â Ryanair ym mis Mawrth eleni. Mae wedi sgorio marciau uchel yn gyson yn ei arholiadau ac mae ganddo agwedd ragorol at ddysgu.

“Rydym yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer ein hyfforddeion ac mae Tomos yn sicr wedi cwrdd â’r her honno gyda gwaith caled, ymroddiad a diddordeb gwirioneddol mewn peirianneg awyrennau. Mae’n ddyddiau cynnar i Tomos ond os yw’n parhau i ragori fel y mae ar hyn o bryd, mae’n sicr y bydd ganddo yrfa lwyddiannus iawn o’i flaen.”

Dywedodd Emlyn Evans, arweinydd y rhaglen darpariaeth ysgolion 14-16, a thiwtor ar y cwrs Peirianneg Gyffredinol Lefel 3 yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: "Rydym ni fel staff mor falch o'n dysgwyr, ac mae'r rôl sydd gennym yn y sector addysg yn werth chweil ac yn rhoi llawer o foddhad, yn enwedig pan fydd ein myfyrwyr yn symud ymlaen i faes peirianneg ar ôl yr addysgu rhagorol a gawsant yn yr Hafan.

“Dymunwn y gorau i Tomos ar gyfer y dyfodol a gobeithio y daw yn ôl i’r Hafan i sôn am ei brofiad ar ôl gadael y coleg a mynd i fyd gwaith.

“I unrhyw ddarpar beirianwyr a hoffai ddilyn yn ôl traed ein dysgwyr blaenorol neu nad ydynt yn siŵr eto am y llwybr gyrfa y maent yn dymuno ei astudio o fewn peirianneg, mae’r cwrs Peirianneg Gyffredinol yn sylfaen wych i gryfhau eich set sgiliau peirianneg.”