Danny and Brody yn helpu Llanfairpwll i ennill 5-0 yn dilyn partneriaeth newydd gyda La Liga
Mae myfyrwyr Coleg Menai Danny Connolly a Brody White yn rhan o garfan Clwb Pêl-Droed Llanfairpwll wnaeth sicrhau buddugoliaeth o 5-0 yn eu gêm gyntaf ers cyhoeddi partneriaeth arloesol gyda La Liga.
Cyhoeddodd Llanfairpwll yr wythnos diwethaf y bydd logo newydd La Liga i'w weld ar flaen eu crysau ar gyfer tymor 2023/24.
Ddydd Sadwrn, chwaraeodd y clwb o Ynys Môn eu gêm gyntaf yn gwisgo brand dwbl 'L' prif adran Sbaen - un o'r cynghreiriau mwyaf poblogaidd ar y blaned lle bu Lionel Messi a Cristiano Ronaldo yn cystadlu.
Rhoddodd y tîm berfformiad y byddai sêr La Liga, Jude Bellingham, Robert Lewandowski a Vinicius Junior wedi bod yn falch ohono, gan ergydio pum gôl i rwyd Holyhead Town ym Maes Eilian a sicrhau'r dechrau gorau posib i bartneriaeth newydd y clwb.
Ymhlith chwaraewyr Llanfairpwll roedd yr ymosodwr Danny Connolly a’r chwaraewr canol cae Brody White, sydd ill dau yn astudio yng Ngholeg Menai.
Mae Danny hefyd yn is-reolwr ar Lanfairpwll - neu Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch i nodi'r enw'n llawn - sy'n chwarae ym mhumed cynghrair pêl-droed Cymru.
Dywedodd bod gwisgo logo La Liga wedi'i ysbrydoli ef a’i gyd-chwaraewyr, er iddo gyfaddef bod y clwb yn meddwl pan gysylltodd La Liga gyntaf i awgrymu partneriaeth rhwng “y ddau enw mwyaf mewn pêl-droed” bod jôc yn cael ei chwarae arnynt.
“Mae’n anrhydedd gwisgo’r crys gyda phartneriaeth mor bwysig,” meddai Danny, sy’n astudio Gosodiadau Trydanol Lefel 3 fel rhan o'i waith gyda chwmni Pentraeth Fire and Security. “Roedd hi'n fuddugoliaeth wych ddydd Sadwrn. Roedden ni’n dominyddu o’r dechrau i’r diwedd, a’r hogiau i gyd yn rhoi 110% o ymdrech.
“Yn amlwg oherwydd ein partneriaeth newydd, bydd llawer mwy o bwysau arnom ni i ennill gemau, ac fe wnaethon ni gynyddu'r disgwyliadau hyd yn oed yn fwy ddydd Sadwrn.
“Cawsom neges gan La Liga yn ystod yr haf yn dweud eu bod yn cyhoeddi logo newydd gyda’r dwbl ‘L’, ac yn gofyn a oeddem eisiau bod mewn partneriaeth â nhw gan fod sawl 'L' yn ein henw.
“Roedden ni’n meddwl ei fod yn ffug, ond fe wnaethon nhw anfon neges eto yn dweud eu bod o ddifrif ac yn gofyn a oedden ni eisiau mynd ar alwad fideo. Cafodd y cadeirydd Samantha Jones-Smith sgwrs gyda nhw a dechrau rhoi'r trefniadau mewn lle.”
Yna anfonodd La Liga ddyluniadau cit atom, gan ofyn a oedd unrhyw beth yr oedd Llanfairpwll ei eisiau ar y crys.
Ar gais y clwb, mae'r cit newydd yn parhau i gynnwys yr enw 'Romeo' - teyrnged i'r cyn-chwaraewr Henry Ayabowei - sydd wedi bod ar lawes crys Llanfairpwll ers iddo farw yn 2017.
Dywed Danny y bydd y bartneriaeth gyda La Liga yn hwb enfawr i’r clwb a’r gymuned, gan honni mai dyma’r newyddion mwyaf ym myd pêl-droed Cymru ers i actorion Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu CPD Wrecsam bron i dair blynedd yn ôl.
“Mae unrhyw gyhoeddusrwydd yn gyhoeddusrwydd da, ond mae hyn yn arallfydol,” meddai. “Nid yw rhywbeth fel hyn erioed wedi digwydd hyd yn oed i dîm yn uwch-gynghrair Cymru. Yr unig beth mwy 'na hyn sydd wedi digwydd ym myd pêl-droed yng ngogledd Cymru yn ddiweddar, yn amlwg, ydy beth ddigwyddodd yn Wrecsam.
“Mae’n bendant yn ysbrydoliaeth ychwanegol i ni, ond mae’n ysbrydoliaeth i’r timau sy’n ymweld â ni hefyd!”
Cytunodd Brody, gan ddweud y byddai timau yn sicr o chwarae o'u gorau yn erbyn Llanfairpwll ar ôl i hanes y clwb fod ar y cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion yr wythnos ddiwethaf.
Wrth siarad cyn gêm dydd Sadwrn, dywedodd: “Rydyn ni i gyd wedi cyffroi i wisgo'r cit. Mae'n mynd i wneud i'r timau eraill chwarae eu gorau glas!
“Roeddwn i ar wyliau pan gafodd yr hanes ei gyhoeddi yn sgwrs grŵp y tîm felly doeddwn i ddim yn cael cymryd rhan yn y fideo hyrwyddo. Ond daeth ITV i’r clwb i wneud cyfweliad a gallwch fy ngweld yn hyfforddi yn y cefndir.”
Mae Brody yn astudio Tystysgrif Addysg Uwch mewn Adeiladu, ar ôl cael ei recriwtio gan Read ar ôl creu argraff pan ar brofiad gwaith fel rhan o'i gwrs BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig.
Bydd CPD Llanfairpwll yn dathlu 125 mlynedd ers ei sefydlu yn 2024, a bydd y clwb yn ceisio nodi'r achlysur mewn steil drwy ei bartneriaeth gyda La Liga. Fel rhan o’r cytundeb, cyflwynwyd arwydd newydd “Croeso i Lanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch” i’r gymuned, gyda logo La Liga yn cymryd lle pob un o’r pump ‘Ll’ yn enw’r pentref.
Lluniau'r gêm: Chris Couchman