Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cwmni RWE yn Gwella Sgiliau Gwyrdd ei Weithlu

Bydd gweithwyr yn RWE yn cwblhau cyrsiau gradd mewn Peirianneg trwy Grŵp Llandrillo Menai.

Fel rhan o gynllun tair blynedd bydd RWE - cwmni ynni rhyngwladol sy'n arbenigo mewn ynni alltraeth - yn talu'n llawn i 23 o'i weithwyr ddilyn cwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC), neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) ym maes Peirianneg.

Bydd y gweithwyr, a fydd yn gweithio ym mhob cwr o'r Deyrnas Unedig, yn gallu astudio wrth eu pwysau ac yn dilyn y darlithoedd rhithwir a ddarperir gan Goleg Menai a Choleg Llandrillo.

Bydd sesiynau tiwtora un-i-un yn cael eu cynnig bob pythefnos, a bydd yr holl adnoddau ar gael ar-lein trwy Google Classroom a Moodle i'r dysgwyr allu eu defnyddio mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'u gwaith a'u hymrwymiadau personol.

Grŵp Llandrillo Menai eisoes yw canolfan hyfforddi'r DU ar gyfer Cynllun Prentisiaethau RWE Renewables, a bydd y Ganolfan Beirianneg gwerth £14 miliwn sy'n cael ei hadeiladu ar gampws y Rhyl hefyd yn cynnwys gweithdy pwrpasol ar gyfer prentisiaid a staff RWE.

Meddai Alwyn Jones, Rheolwr y Maes Rhaglen Peirianneg yng Ngholeg Llandrillo,

"Rydym yn falch o allu helpu RWE yn eu hymdrech i wella sgiliau eu gweithwyr. Nod ein partneriaeth bresennol gyda RWE yw arwain y ffordd o ran hyrwyddo Sgiliau Gwyrdd yn y diwydiant ynni"

"Bydd y cyrsiau'n cael eu datblygu fel bod y myfyrwyr yn gallu defnyddio'r deunyddiau a'r adnoddau dysgu yn unrhyw le, ac unrhyw awr o'r dydd neu'r nos.

Meddai John McKenzie, Pennaeth Gweithrediadau Alltraeth - RWE Rhanbarth A,

Mae gennym berthynas gref gyda Grŵp Llandrillo Menai, ac mae gwella sgiliau ein gweithlu yn

hanfodol i'n strategaeth twf. Mae Coleg Llandrillo eisoes wedi ennill nifer o wobrau am ein rhaglen prentisiaethau sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac rydyn ni'n gobeithio cael yr un llwyddiant gyda'r cynllun hwn!"

Ychwanegodd,

"Mae datblygu ein gweithlu yn greiddiol i'r ffordd rydyn ni'n gweithio, ac rydw i wrth fy modd fod cynifer

o'n gweithwyr wedi ymuno â'r cynllun, gan ehangu eu sgiliau a'n helpu ni gyda phrosiectau ynni amrywiol ym mhob rhan o'r DU."

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Peirianneg sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.

I gael rhagor o wybodaeth am Brentisiaethau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.