Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfodol Digidol Gwyrdd

Dathlu busnesau lleol wrth iddynt anelu am sero net

Taith busnesau Gwynedd wrth iddynt yn anelu i leihau carbon a tharged sero net fydd y thema mewn digwyddiad arbennig wedi drefnu gan Busnes@LlandrilloMenai yr wythnos nesaf. Bwriad y digwyddiad yw dathlu rhaglen Academi Ddigidol Werdd, gyda’r busnesau sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun yn rhannu eu profiadau a sut y maen nhw wedi cael cefnogaeth i leihau eu hallyriadau carbon.

Mae’r Academi Ddigidol Werdd yn cael ei rhedeg gan Busnes@LlandrilloMenai ac mae wedi gweithio gyda 54 o fusnesau hyd yma, gan roi cyngor arbenigol iddynt ar sut i addasu a lleihau eu hôl troed carbon. Wedi’i ariannu gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU, mae’r Academi Ddigidol Werdd wedi cefnogi busnesau bach a chanolig ar draws y rhanbarth i wneud y gorau o dechnoleg newydd i leihau eu heffaith ar yr hinsawdd.

Un o’r busnesau i elwa o’r prosiect yw Rhys Anwyl, perchennog busnes twristiaeth Rhiw Goch ger Llanfrothen. Bydd yn un o’r siaradwyr yn Dyfodol Digidol Gwyrdd. Dywedodd: “Mae’r cymorth rydym wedi’i gael drwy’r rhaglen wedi golygu ein bod wedi cael gweithio gydag arbenigwyr i ddeall ein hôl troed carbon ac adnabod ein mannau gwan o ran allyriadau. Mae’r cyngor wedi bod yn amhrisiadwy ac rydym rwan yn gobeithio parhau i weithio gyda’r tîm Digidol Gwyrdd i symud ymlaen tuag at ein nod o gyrraedd sero net.”

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn rhan o Grŵp Llandrillo Menai, ac yn darparu hyfforddiant a chymorth i fusnesau. Y nod trwy'r prosiect yma yw helpu perchnogion busnesau i gymryd camau i gwrdd â’r galw cynyddol gan gwseriaid am gynhyrch a gwasanaethau amgylcheddol gyfeillgar. Y gobaith hefyd yw y bydd yr Academi Ddigidol Werdd hefyd o fudd masnachol gan arwain at leihau costau cynhyrchu ac yn cynyddu effeithlonrwydd y busnesau sydd wedi cymryd rhan.

Julie Stokes Jones yw Swyddog Datblygu Busnes y Prosiect. Ychwanegodd: “Rydym yn sylweddoli nad yw busnesau yn gwybod ble i ddechrau ar eu taith i sero net ac i fusnesau bach mae lleihau allyriadau carbon yn ogystal â pharhau i fod ym fasnachol yn gallu bod yn her. Mae’r rhaglen wedi cael ei chynllunio i’w helpu nhw flaenoriaethu a deall pa gamau maen nhw yn gallu eu cymryd. Rydym yn edrych ymlaen at y digwyddiad fydd yn gyfle i ni gylfwno’r busnesau sydd wedi cymryd rhan a’r gefnogaeth y maen nhw wedi gael.”

Y meteorolegydd a chyflwynydd tywydd S4C, Steffan Griffiths fydd prif siaradwr y digwyddiad a bydd yn trafod sut all bawb chwarae rôl wrth i ni fynd i’r afael â heriau o ran newid hinsawdd. Bydd arddangosfa offer ynni adnewyddol yn y digwyddiad hefyd a gall mynychwyr ddysgu sut maen nhw'n gweithio a manteision y dechnoleg ddiweddaraf.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am yr help sydd ar gael i fusnes ar eu taith i gyrraedd sero fynychu'r digwyddiad ym Mharc Menai, Bangor ar y 9fed o Ragfyr am 10:00.

Am fwy o fanylion ac i gofrestru https://tinyurl.com/mjt6sr5n