Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ffilm newydd gan Russell - 'Shepherd' - yn ffrydio ar Amazon Prime

Mae ffilm arswyd gyffrous wedi ei chyfarwyddo gan gyn-fyfyriwr o Goleg Menai, Russell Owen, wedi ennill clod beirniadol gan y New York Times a Mark Kermode

Mae'r ffilm arswyd iasol - 'Shepherd' - a gyfarwyddwyd gan gyn-fyfyriwr o Goleg Menai, Russell Owen, bellach ar gael i'w gwylio ar Amazon Prime mewn pryd ar gyfer Calan Gaeaf. ⁠⁠

Roedd 'Shepherd' yn un o ffilmiau'r wythnos Mark Kermode ac yn un o ffilmiau 'Critics Pick' y ‘New York Times’ pan ryddhawyd yn y sinemâu yn 2021. ⁠

Mae’r ffilm iasol gyffrous yn canolbwyntio ar Eric Black sydd, wedi’i boeni gan farwolaeth ddirgel ei wraig, yn dewis byw ar wahân ar ynys anghysbell yn yr Alban.

Ar ôl cymryd swydd yn gofalu am 600 o ddefaid, mae Eric (a bortreadir gan Tom Hughes) yn cwrdd â grym goruwchnaturiol dialgar ac yn ofni ei fod yn colli ei feddwl wrth i'w rithweledigaethau hunllefus ddwysau.

⁠Mae 'Shepherd', sydd hefyd yn serennu Kate Dickie, wedi ennill clod beirniadol am ei hawyrgylch bygythiol di-baid, gyda’r New York Times yn dweud bod Russell “yn dangos sicrwydd gyda naws gothig sy’n rhoi pwysau ar ein nerfau yn gyson”.⁠

Mae Russell, a astudiodd y cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai, eisoes wedi creu gyrfa lwyddiannus fel cyfarwyddwr masnachol, ar ôl cyd-sefydlu asiantaeth greadigol yn Llundain o'r enw Kindred Communications.

Mae wedi cyfarwyddo ymgyrchoedd hysbysebu ar gyfer cwmnïau fel Armani, L’Oréal, American Express, Haig Whisky a Specsavers, gan weithio gydag enwogion fel David Beckham a Kylie Minogue.

Nawr mae'n gobeithio y bydd 'Shepherd' yn sbarduno ei yrfa cyfarwyddwr sinema, ac mae wedi sicrhau asiant yn Hollywood yn dilyn llwyddiant y ffilm yn yr Unol Daleithiau.

Fodd bynnag, efallai na fyddai'r ffilm erioed wedi cael ei gwneud pe bai Russell wedi gwrando ar y rhai a'i cynghorodd yn erbyn cyfarwyddo ei ffilm flaenorol, 'Inmate Zero''.

“Mi ges i alwad ffôn yn gofyn a allwn i gyfarwyddo ffilm zombie,” meddai Russell. “Roedd y cyfarwyddwr wedi tynnu allan, a doedd yna ddim cast, criw, gwisgoedd, na lleoliadau wedi'u trefnu.

“Dywedodd rhywun wrthyf i, 'Os wnei di'r ffilm honno, dyna ddiwedd dy yrfa'. Ond, dywedais i 'Does gen i ddim gyrfa, dim mewn ffilm beth bynnag', felly mi wnes i benderfynu mynd amdani. Dywedais i wrth y cwmni cynhyrchu y byddwn i'n gwneud y ffilm am ddim pe byddent yn ariannu 'Shepherd', a ysgrifennais yn 2003 tra roeddwn yn y brifysgol.”

Trawyd bargen, ac o fewn wythnos o orffen ffilmio 'Inmate Zero', roedd Russell yn yr Alban yn chwilio am leoliadau i ffilmio 'Shepherd'.

"Ysgrifennais 'Shepherd' i ddangos pa mor arswydus yw unigedd,” meddai. “Trwy gydol y ffilm mae yna densiwn sylfaenol, mae rhywbeth ychydig o chwith. Dydych chi byth yn siŵr lle mae'r prif gymeriad mewn gwirionedd - ydy o ym Mhurdan? Ydy'r ynys yn go iawn? Ydy o wedi mynd o'i go'?”

Mae’r sain a’r dyluniad set yn ychwanegu’n fwriadol at yr ymdeimlad o anesmwythder, gyda bwthyn y cymeriad canolog wedi’i adeiladu’n bwrpasol i ymddangos yn wlyb ac oer, tra bod sŵn y gwynt a’r tonnau mewn gwirionedd wedi cael ei greu o synau mor amrywiol â chôr meibion, cŵn yn cyfarth a dwsinau o boteli gwydr yn cael eu taflu i'r llawr.

Ychwanegodd: “Roedd ffilmio 'Shepherd' yn anodd, ond ar ôl ei roi ar waith o’r diwedd, mae gen i nawr asiant yn Hollywood, ac mae’r holl bethau eraill rydw i wedi’u hysgrifennu bellach gyda stiwdios llawer mwy fel Lionsgate ac Amazon.” ⁠

Mae gwaith ar y prosiectau eraill hynny wedi cael ei ohirio oherwydd streiciau yn y diwydiant, ond y gobaith yw y bydd ffilm arall yn cael ei chynhyrchu yn y dyfodol agos.

Dysgodd Russell lawer am wneud ffilmiau wrth weithio o dan y sinematograffydd enwog Adrian Biddle ar ffilm arswyd 'An American Haunting' yn 2005, gyda Sissy Spacek a Donald Sutherland yn serennu. Yna datblygodd ei sgiliau fel storïwr ar sioeau teledu fel 'Doctor Who', a gweithiodd fel dylunydd set ar 'The Graham Norton Show'. ⁠⁠ ⁠⁠

Mae Russell yn mwynhau ochr fasnachol gwneud ffilmiau, meddai: “Mae’n rhoi’r cyfle i mi roi cynnig ar dechnegau newydd, gweithio gyda chriwiau newydd, edrych ar offer newydd sydd ar y farchnad a rhoi cynnig ar dechnoleg newydd. Pryd bynnag y byddaf yn dod yn ôl at wneud ffilmiau ar ôl gwneud hysbysebion, mae gen i fwy o wybodaeth nag oedd gen i o'r blaen, ac ni fyddai hynny'n wir pe bawn i'n gweithio ar ffilmiau yn unig.”

Fodd bynnag, efallai na fyddai ei yrfa wedi digwydd o gwbl pe na bai wedi mynd i Goleg Menai - gan anwybyddu cyngor cynghorydd gyrfa ysgol o'r 1990au a ddywedodd mai ofer oedd ei freuddwyd o fod yn gyfarwyddwr ffilm.

Dywedodd: “Ni wnaeth fy ysgol fy annog i ddilyn fy uchelgais ac roedd y cyngor gyrfaoedd yn 'eithaf anobeithiol'.

“Fe ddysgodd y cwrs Sylfaen Celf y gwrthwyneb yn llwyr i mi, a hynny mewn llai na blwyddyn. Cywasgodd gymaint o bosibilrwydd, brwdfrydedd a gobaith i gyfnod mor fyr.

“Rhoddodd yr hyder roeddwn ei angen i mi wthio ymlaen a gwneud yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud mewn bywyd. Roedd yn llawer mwy addysgol ac adeiladol i bwy ydw i nawr na fy mlynyddoedd yn y brifysgol. Roeddent yn deall pwysigrwydd hanfodol annog, meithrin ac arwain talent.”

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai, Coleg Llandrillo a Choleg Meirion-Dwyfor, cliciwch yma. ⁠ Mae ceisiadau yn agor ym mis Tachwedd ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024.