Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Arddangosfa Lleoliadau Gwaith Peirianneg wedi'i gynnal yng Ngholeg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr peirianneg o bob rhan o Goleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai glywed gan gyflogwyr peirianneg mawr y rhanbarth mewn digwyddiadau 'Arddangos Lleoliadau Gwaith'.

Trefnwyd y digwyddiadau gan CAMVA - asiantaeth fewnol Grŵp Llandrillo Menai sy'n cefnogi myfyrwyr i ddod o hyd i brofiad gwaith, prentisiaethau, a sefydlu eu busnes eu hunain.

Roedd REHAU UK, Mona Lifting Ltd, FAUN Trackway a Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru ymhlith y cyflogwyr a fynychodd ddigwyddiad ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, lle daeth dros 100 o fyfyrwyr Peirianneg draw i ddysgu rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Gwnaeth partneriaid Grŵp Llandrillo Menai, Babcock International, hefyd arddangos yr hyn maent yn ei gynnig o ran prentisiaethau i’r dysgwyr, gan gynnwys cyflwyniadau gan ddau brentis presennol o Babock am y broses recriwtio a bywyd dydd i ddydd fel prentis.

Gwnaeth Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru a REHAU UK hefyd ymweld â myfyrwyr ar ddau o safleoedd peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor, gan arddangos y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn lleol.

Yn y digwyddiadau hyn, amlinellodd y cyflogwyr y swyddi profiad gwaith, a'r cyfleoedd dilyniant sydd ar gael o fewn diwydiant cystadleuol Peirianneg. Mae'r cyfleoedd profiad gwaith yn gyfle gwych i ddysgwyr gael profiad ymarferol, gwerthfawr, ac i weld sut mae'r cwmnïau'n gweithredu o ddydd i ddydd.

Cafodd y dysgwyr hefyd gyfle i fanteisio ar weithdai cyflogaeth a chyfweliadau a gynhaliwyd gan Hyfforddwr Cyflogaeth CAMVA, Gerallt, sy’n cefnogi’r dysgwyr drwy gynnig cyngor CV a datblygu eu sgiliau cyfathrebu.

Dywedodd Julie Stokes-Jones, Prif Swyddog Lleoliadau ar gyfer CAMVA yng Ngrŵp Llandrillo Menai,

“Diolch i’r holl gyflogwyr am ddod draw i weld ein dysgwyr. Nod y digwyddiadau oedd dangos i’n myfyrwyr bod cyfleoedd cyflogaeth a dilyniant gwych ar gael yn yr ardal leol – gyda chwmnïau a fydd yn buddsoddi ynddynt i sicrhau eu bod yn ffynnu yn eu rôl.”

“Mae’r lleoliadau profiad gwaith hyn yn aml yn arwain at gynnig prentisiaethau i ddysgwyr yn y cwmni, felly maen nhw’n gyfle euraidd iddyn nhw gael eu troed yn y drws a chychwyn ar eu taith at waith.”

Dywedodd Chris McPhail, Cynorthwyydd Logisteg a Gwaith Academi REHAU,

“Roedd yn wych cyflwyno llwybr posibl i lwyddiant i’r myfyrwyr yn y ddau goleg lleol. Mae’n bwysig eu bod yn deall bod hyn yn gyfle i hyfforddi a gweithio’n lleol a chael cyflog o'r ail flwyddyn ymlaen. Nid oes angen mynd i ddyled na symud oddi cartref! Beth sydd ddim i'w hoffi am hynny?"

DIWEDD