Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Lefel A yn cael cipolwg uniongyrchol ar Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

Dr Harri Pritchard, Dr Esyllt Llwyd a Myfyriwr Meddygol Blwyddyn 5, Ffraid Gwenllian yn rhannu cipolwg ar ddatblygiad Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor gyda dysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai.

Cafodd myfyrwyr Safon Uwch gipolwg ar Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn ddiweddar pan ymwelodd cynrychiolwyr â champws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli.

Gwnaeth Dr Harri Pritchard, Dr Esyllt Llwyd a Myfyriwr Meddygaeth Blwyddyn 5, Ffraid Gwenllian ymweld â champws y coleg ym Mhwllheli, gyda dysgwyr o gampws y coleg yn Nolgellau a Choleg Menai yn Llangefni hefyd yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Mae Prifysgol Bangor yn lansio ei rhaglen meddygaeth gyntaf ym mis Medi 2024 a fydd yn galluogi myfyrwyr i gwblhau eu hastudiaethau yn gyfan gwbl yng Ngogledd Cymru.

Mae sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Bangor i wasanaethu ei chymunedau lleol a'i strategaeth i gefnogi iechyd a lles.

Mae’r Ysgol Feddygol newydd yn dod ag arbenigwyr addysgol a meddygol o bob cwr o Ogledd Cymru ynghyd, ac mae’n gydweithrediad rhwng y Brifysgol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Meddygon Teulu.

Mwynhaodd Dr Pritchard, sy’n wreiddiol o Dudweiliog, ger Pwllheli, siarad â darpar ymgeiswyr o’i ardal enedigol, gan rannu ei fewnwelediad i yrfa feddygol yng Ngogledd Cymru.

“O fis Medi 2024 bydd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn darparu rhaglenni Meddygaeth ar gyfer israddedigion ac ar gyfer graddedigion newydd,” meddai Dr Pritchard, Uwch Ddarlithydd Clinigol yn yr Ysgol Feddygol sydd hefyd yn Feddyg Teulu yn Amlwch.

“Er bod myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod yn astudio ym Mangor ers 2018, roedd rhaid i ymgeiswyr a oedd wedi astudio Lefel A gwblhau'r flwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd neu gwblhau 'gradd bwydo' cyn ymuno â ni ym Mangor.

“O fis Medi’r flwyddyn nesaf, bydd modd astudio’r rhaglen Feddygaeth gyfan yng Ngogledd Cymru, ac mae angen i ni gyfleu’r neges bwysig honno ac annog ymgeiswyr lleol i ymgeisio.”

Ychwanegodd Dr Pritchard: “Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn arbennig o awyddus i ddenu myfyrwyr dwyieithog, a bydd cynnig cyd-destunol yn cael ei roi i ddenu siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.”

Mae'r gofynion mynediad ar gyfer mynediad israddedig i'w gweld yma, ac ar gyfer mynediad i raddedigion yma.

Roedd Penny MacCall, sy'n astudio Lefel A Bioleg, Ffiseg a Chemeg ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, yn un o'r llu o fyfyrwyr a gafodd fudd mawr o'r drafodaeth wrth iddi ystyried astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd Penny: “Esboniodd y tîm strwythur y cwrs flwyddyn ar ôl blwyddyn, a rhoi syniadau i ni ar y ffordd orau i baratoi drwy ymgymryd â gweithgareddau gwirfoddol a phrofiad gwaith.”

I gael rhagor o wybodaeth am ymweliadau ysgol, cysylltwch â medicineadmissions@bangor.ac.uk neu i ymweld â'r brifysgol i ddysgu rhagor, cofrestrwch ar gyfer diwrnod agored nesaf Prifysgol Bangor yma.

Am ragor o wybodaeth am astudio Lefel A gyda Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.