Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr y Rhyl yn Cael Blas ar Gystadlu ar Lefel ‘Olympaidd’!

Cafodd bron i gant o fyfyrwyr gyfle i brofi eu sgiliau yn erbyn cyd-fyfyrwyr yn y Cystadlaethau Olympaidd i Grefftwyr a'r Arddangosfa Grefftau a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl.

Cynhaliwyd y Cystadlaethau Olympaidd i Grefftwyr yng Ngholeg y Rhyl - sy'n cynnwys y Ganolfan Technoleg Cerbydau Modur, a gostiodd sawl miliwn i’w chodi, a chanolfan benodol i'r chweched dosbarth.
Cafodd ymwelwyr hefyd gyfle i gael golwg ar safle'r Ganolfan Rhagoriaeth Peirianneg gwerth £11m sydd yn yr arfaeth ac a dderbyniodd ganiatâd cynllunio swyddogol gan Gyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar.

Bu myfyrwyr o feysydd a oedd yn cynnwys Gwasanaethu a Thrwsio Cerbydau Modur, Trin Gwallt, y Celfyddydau Creadigol, Lefel A, Trwsio Cyrff Cerbydau, Mynediad i Addysg Uwch, Gwaith Asiedydd, a Gwasanaethau Cyhoeddus yn cystadlu'n frwd ym mhob cwr o'r campws er mwyn ceisio ennill medalau aur, arian ac efydd, ynghyd ag ystod o wobrau gwych a gyfrannwyd gan bartneriaid diwydiannol. Trefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â GE Tools.

Rhoddodd y Cystadlaethau Olympaidd i Grefftwyr brofiad yr oedd mawr ei angen i ddysgwyr y Rhyl mewn amgylchedd cystadleuol. Cafodd y myfyrwyr eu hysbrydoli gan eu llwyddiant, a rhoddodd hyder iddynt gymryd rhan mewn cystadlaethau ar lefel Cymru gyfan, ar lefel y Deyrnas Unedig ac ar lefel ryngwladol.

Yn dilyn llawer o drafod ymhlith y beirniaid, cyflwynodd Pennaeth Llandrillo, Lawrence Wood, a rheolwyr eraill, y medalau i'r enillwyr haeddiannol.

Ochr yn ochr â'r cystadlaethau, cynhaliwyd dau ddigwyddiad arall. Cymerodd dros ugain o gwmnïau ran mewn arddangosfa grefftau er mwyn i ddysgwyr campws y Rhys a champysau eraill Coleg Llandrillo weld rhai o'r datblygiadau diweddaraf mewn amrywiol ddiwydiannau. Yn ogystal, roedd yno ddigwyddiad gyrfaol/ymlaen i'r dyfodol, a oedd yn fodd i blant ysgol lleol ymweld â'r campws, cael cyngor ar gyrsiau, a gweld y cyfleusterau.

Llongyfarchodd Salah Berdouk, Pennaeth Cynorthwyol (Cyfrifiadura a Diwydiannau Creadigol, Adeiladu a Pheirianneg), y rhai a enillodd fedalau a phawb a gymerodd ran ar y diwrnod.

"Mi wynebodd ein dysgwyr yr her a gwneud eu gorau glas i roi popeth y maen nhw wedi'i ddysgu eleni ar waith," meddai. "Roeddynt mor falch ac yn teimlo y gallant gyflawni unrhyw beth y dymunant os gwnânt ddygnu arni. Gwnaeth y gwobrau hael gan bartneriaid fel GE Tools a Howdens fyd o wahaniaeth."

Ychwanegodd Salah: "Roedd hon yn enghraifft berffaith o ddiwydiant yn gwneud popeth o fewn ei allu i ysbrydoli pobl ifanc o'r Rhyl a Sir Ddinbych. Bu'r digwyddiad o fwy o fudd fyth i'r gymuned gan fod cymaint o gwmnïau a sefydliadau, a phlant ysgol, yno ...da iawn bawb."

Dywedodd Chris Owen, rheolwr-gyfarwyddwr GE Tools: "Roedd y dysgwyr yn wych; mi wnaethon nhw ddangos fod ganddyn nhw sgiliau a gallu o safon uchel. Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn; roedd yn wych gweld cymaint o fusnesau a sefydliadau o wahanol ddiwydiannau'n dangos y cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael i fyfyrwyr.

"Rydym yn diolch iddyn nhw am eu cefnogaeth ac i'r coleg am ei ymrwymiad i'r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y maes yma. Mae'r doniau a welwyd yn ein gwneud yn ffyddiog fod dyfodol y sector grefftau mewn dwylo diogel."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau a gynigir ar gampws Coleg Llandrillo yn Y Rhyl, ffoniwch 01745 354 797.

E-bost: ymholiadau.rhyl@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk