Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Darn o gelf myfyriwr Coleg Llandrillo yn arwain y ffordd ar lwybr cerfluniau

Mae cysyniad octopws hufen iâ cyn-fyfyriwr o adran gelf Coleg Llandrillo wedi cael lle amlwg ar lwybr cerfluniau Dychmygu Bae Colwyn.

Dewiswyd darn celf Abi Dearden o blith dwsinau o geisiadau i gael eu cynnwys yn llwybr cerfluniau newydd y dref.

Yn ystod ei chyfnod ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos enillodd Abi raddau Lefel A ardderchog mewn Celf, Graffeg a Ffotograffiaeth ac arhosodd yn y coleg i ymuno â'r cwrs Sylfaen mewn Astudiaethau Celf a Dylunio. Ar hyn o bryd, mae'n dilyn cwrs gradd mewn Darlunio ym Mhrifysgol Cumbria, Carlisle.

Enw'r octopws hufen iâ ydy Lady Penelope, a hynny yn dilyn cystadleuaeth i roi enw arni a gynhaliwyd gan staff Station View CAfe. Mae Lady Penelope yn rhan allweddol o'r llwybr celf ac mae i'w gweld ar wal yn dal arwydd 'i'r traeth' ac yn dangos y ffordd gydag un o'i breichiau tentaclog!

Mae ffrâm Lady Penelope wedi'i lunio o ddarnau gwastraff o beipen gwresogi. Mae ei llygaid wedi eu creu o fflotiau pysgota a'i chroen o ddefnydd lapio o swigod wedi'i orchuddio â thap clir wedi'i warchod rhag olau UV. Golchwyd y côn traffig a'r rhwyd pysgota i'r lan ar y traeth ac mae'r rhain wedi eu siapio i greu côn hufen iâ.

Datblygwyd llwybr Cerfluniau Dychmygu fel rhan o Gynllun Lle Gwych y Gronfa Dreftadaeth Dychmygu Bae Colwyn. Nod y prosiect ydy cynnwys pobl ifanc yn y gwaith o greu celf gyhoeddus chwareus ac apelgar sy'n cynnwys themâu amgylcheddol lleol a threftadaeth.

Datblygwyd syniadau ar gyfer y llwybr drwy weithdai a gwaith cysylltu â myfyrwyr y cwrs Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Llandrillo. Wedi i ddyluniad Abi gael ei ddewis (ynghyd â nifer o gynlluniau eraill), comisiynwyd cynrychiolwyr o gwmni Small World Theatr o Geredigion i weithio ar y prosiectau a throi'r cysyniadau yn ddarnau go iawn gan ddefnyddio defnyddiau a achubwyd.

Mae gan Small World Theatr enw da am greu gwaith comisiwn a sioeau celf gyhoeddus cyffroes ac ysgogol. Mae'n creu cerfluniau manwl, symudol a llusernau anferth a hynny drwy ddefnyddio ystod anhygoel o ddefnyddiau wedi'u hailgylchu, ail ddefnyddio a defnyddiau wedi eu canfod.

Wrth siarad am ei chyfnod yn y coleg, dywedodd Abi: "Rydw i wedi cael profiadau gwych ar y cwrs Sylfaen mewn Celf a Dylunio. Mi wnes i lawer o ffrindiau a dysgu llawer o sgiliau newydd rydw i'n eu defnyddio bob dydd yn y brifysgol. Oherwydd fy mod i wedi cwblhau’r cwrs rydw i'n teimlo fy mod i ar y blaen gyda'r gwaith rydw i'n ei wneud rŵan. Rydw i mor falch fy mod i wedi cwblhau'r cwrs, byddwn yn ei argymell i unrhyw un.'

Gallwch weld detholiad o waith Abi ar https://jdart.grillust.uk

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Celfyddydau Creadigol eraill, neu unrhyw gwrs arall sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo, ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: enquiries.llandrillo@gllm.ac.uk