Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn Bennaeth Dylunio gemau fideo Lego yn cael ei holi gan fyfyrwyr Coleg Llandrillo Menai

Cafodd cyn Bennaeth Dylunio cwmni gemau fu'n gweithio ar nifer o gemau arobryn LEGO am dros ugain mlynedd ei holi'n drwyadl gan fyfyrwyr cyrsiau Datblygu Gemau yn ystod sesiwn Holi ac Ateb yng Ngholeg Llandrillo yn ddiweddar.

Bu Arthur Parsons - a synnodd y diwydiant gemau yn 2021 pan adawodd TT Games i ddechrau ei fusnes ei hun ar ôl mwy na dau ddegawd gyda'r cwmni - yn ateb cwestiynau gan ddwsinau o fyfyrwyr ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ar ystod eang o bynciau: o'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol, cyfleoedd gyrfa yn y diwydiant gemau i gyngor penodol ynghylch dylunio gemau.

Mae'r gemau fideo LEGO, sydd wedi ennill gwobrau BAFTA, yn seiliedig ar wahanol ffilmiau LEGO, ac yn dilyn straeon y ffilmiau hynny.

Sgwrsiodd Arthur - sydd bellach wedi sefydlu ei stiwdio ei hun o'r enw 10:10 games ac sy'n Gyfarwyddwr Dylunio'r fenter - am ei yrfa hyd yma, dros chwarter canrif yn y diwydiant gemau. Soniodd hefyd am yr hyn y mae'n ei wneud o ddydd i ddydd, y gemau cyfredol sy'n cael eu datblygu, technegau cyfweld, trosolwg o'r diwydiant presennol a chyngor i'r myfyrwyr.

Dywedodd Arthur: “Ro'n i wrth fy modd yn ymweld â’r myfyrwyr yng Ngholeg Llandrillo. Fe wnaethant ofyn amrywiaeth o gwestiynau treiddgar ac ro'n i wrth fy modd â'u brwdfrydedd a'u ehangder gwybodaeth. "
Fe wnaeth cyfleusterau cyfrifiadurol y coleg a strwythur y cwrs Datblygu Gemau greu argraff dda iawn arnaf."

Dywedodd tiwtor Datblygu Gemau Coleg Llandrillo, Rob Griffiths - a fu'n gweithio i Arthur yn TT Games yn flaenorol: “Roedd hwn yn ymweliad gwerthfawr dros ben i’n myfyrwyr Datblygu Gemau. Roedd yn gyfle gwych i weld sut mae'r diwydiant yn gweithio o safbwynt rhywun sy'n gweithio yn y maes. Roedd yn sesiwn ddefnyddiol iawn, ac yn wych clywed gan un o fawrion y diwydiant sydd wedi gadael cwmni llwyddiannus i ddechrau ei fusnes ei hun. Bydd ei gyngor ac arweiniad, a'i adborth ar gynnwys portffolio, yn hynod o ddefnyddiol i'n dysgwyr.

Yn dilyn rhyddhau'r gêm fideo Lego Star Wars, unodd cwmni Giant gyda Traveller's Tales i ffurfio TT Games. Ers hynny mae TT Games - sy'n rhan o gwmni adloniant byd-eang Warner Bros erbyn hyn - wedi datblygu nifer o gemau fideo LEGO gyda brandiau adnabyddus yn cynnwys, Batman, Harry Potter, Marvel Super Heroes ac Indiana Jones, yn ogystal a theitlau poblogaidd fel LEGO Marvel's Avengers, LEGO Lord of the Rings, LEGO Jurassic World, LEGO Dimensions, LEGO Worlds a llawer o deitlau eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Datblygu Gemau, neu gyrsiau Cyfrifiadura yn gyffredinol, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk