Myfyrwyr yn Paratoi ar gyfer Cystadlaethau Olympaidd ym maes Sgiliau!
Mae myfyrwyr Coleg y Rhyl yn edrych ymlaen at y cyfle i brofi eu sgiliau yn erbyn eu cyd-fyfyrwyr yn y 'Cystadlaethau Olympaidd ym maes Sgiliau a'r Ffair Yrfaoedd' a gynhelir ddydd Iau 7 Ebrill ar gampws y Rhyl yn rhad ac am ddim i bawb!
Bydd medalau aur, arian ac efydd, yn ogystal ag amrywiaeth o dlysau a gwobrau yn cael eu rhannu ymhlith y rhai hynny sy'n rhagori mewn amrywiaeth o feysydd academaidd a galwedigaethol, yn cynnwys Lefel A, Cerbydau Modur, Adeiladwaith, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gweinyddu Busnes.
Bydd y 'Cystadlaethau Olympaidd ym maes Sgiliau' yn gyfle i ddysgwyr y Rhyl arddangos eu sgiliau i amrywiaeth eang o gyflogwyr ac ennyn profiad gwerthfawr mewn amgylchedd cystadleuol gan roi iddynt yr hyder i gymryd rhan mewn mwy o gystadlaethau yn y dyfodol - yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i wylio amrywiaeth o gystadlaethau a chael gwybodaeth ar Ganolfan Rhagoriaeth Peirianneg gwerth £11m sydd i'w datblygu ar gampws y Rhyl, a dderbyniodd ganiatâd cynllunio swyddogol gan Gyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar.
Hoffai'r coleg ddiolch i'r holl noddwyr am eu cefnogaeth yn ogystal â'r cyflogwyr lleol sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn y Ffair Yrfaoedd ar y diwrnod.
Mae'r digwyddiad cymunedol hwn yn rhad ac am ddim i bawb sy'n mynychu rhwng 9.30am-2pm ddydd Iau 7 Ebrill ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl - Ffordd Cefndy, Y Rhyl, LL18 2HG.
Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y diwrnod!