Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Seren Rygbi'r Coleg a Darpar Fydwraig yn llofnodi'r Contract Proffesiynol Cyntaf Erioed i Ferched yng Nghymru!

Mae chwaraewraig rygbi ryngwladol sy'n adnabyddus am hyfforddi cŵn defaid, ac sydd newydd gofrestru ar gwrs dwys er mwyn gwireddu ei breuddwyd o fod yn fydwraig, wedi'i chynnwys mewn grŵp dethol o’r merched cyntaf erioed i gael contractau proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru.

Mae Gwenllian Pyrs, sy'n 24 oed ac yn dod o Ysbyty Ifan ger Betws-y-Coed, ynghyd â phum blaenwraig arall a chwe chefnwraig, wedi creu hanes drwy gael yr anrhydedd o fod y garfan gyntaf o ferched i dderbyn contract gan URC.

Dechreuodd Gwenllian ar gwrs Mynediad i Addysg Uwch ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos yr hydref diwethaf. Mae'r newydd arloesol hwn wedi golygu bod Gwenllian yn gorfod astudio ar-lein yn hytrach na mynychu’r coleg. Ar ôl cwblhau'r cwrs, ei bwriad yw mynd i'r brifysgol i astudio bydwreigiaeth.

Ganwyd Gwenllian, sy'n bridio ac yn hyfforddi cŵn defaid ar fferm y teulu yn Nyffryn Conwy, ym Mangor a chwaraeodd ar lefel ryngwladol am y tro cyntaf i dîm merched Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched yn 2017, pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner yn erbyn yr Eidal. Erbyn hyn, mae ganddi 16 cap.

Rŵan, bydd yn rhaid iddi jyglo rhwng chwarae rygbi'n broffesiynol, gweithio ar y ffermio, a dilyn ei chwrs coleg ar-lein. Hyd yn oed cyn y newydd hwn, roedd ei hamserlen hyfforddi rygbi yn neilltuol: teithiai i Fanceinion ddwywaith yr wythnos i hyfforddi efo Siarcod Sale, hyfforddai yn y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol yng Nghaerdydd deirgwaith yr wythnos, a chwblhâi sesiynau hyfforddiant personol/codi pwysau deirgwaith yr wythnos. Ond, fel y dywedodd Gwenllian, "does dim ots gennych yrru pellteroedd maith os ydych yn gwybod eich bod yn mynd i wisgo'r jersi goch ddiwedd yr wythnos".

Meddai Cyfarwyddwr Perfformiad URC, Nigel Walker, "Bydd y cam hanesyddol o roi deuddeg contract llawn amser yn galluogi'r chwaraewyr hyn i chwarae'n broffesiynol yn llawn amser a chael cyswllt wythnosol â'r prif hyfforddwr, Ioan Cunningham, gweddill yr hyfforddwyr a'n tîm o arbenigwyr gwyddonol a meddygol. Bydd hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i baratoadau, ffitrwydd a set sgiliau'r chwaraewyr er mwyn i ni allu herio timau gorau'r byd."

Yn ôl prif hyfforddwr y merched, Ioan Cunningham, "Mae wedi bod yn broses galed ond pleserus. Pob clod i'r holl chwaraewyr a wnaeth achosi cur pen i ni wrth ddethol. Rŵan, rydym ar dân i ddechrau ar y rhaglen. Talent oedd y maen prawf cyntaf yn ein proses ddethol, yna potensial yr unigolion o ran datblygu, ynghyd â'u hagwedd. Yn amlwg, mae gennym dargedau yn y tymor byr a'r tymor canol o ran Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan Rygbi'r Byd, ond rydym wastad yn awyddus i feithrin y chwaraewyr gorau er budd dyfodol rygbi yng Nghymru."

Cafodd dawn Gwenllian ym maes rygbi ei meithrin gan ei thad, Eryl, a thrwy chwarae rygbi di-reol yn y caeau gyda'i naw brawd a chwaer.

O ran ei gyrfa'n chwarae rygbi, roedd yn hwyr yn dechrau. Er iddi chwarae gyda'i brodyr a'i chwiorydd ar y fferm a chadw'n heini drwy helpu ei thad, ni wnaeth ddechrau cymryd pethau fwy o ddifrif tan i Nant Conwy sefydlu tîm i ferched dan 18 oed chwe mlynedd yn ôl.

Mae'r cwrs y mae Gwenllian yn ei ddilyn, sef y rhaglen Mynediad i Addysg Uwch, yn agor y drws i fynd ymlaen i brifysgol ac mae Coleg Llandrillo wedi bod yn cynnig y rhaglen hon ers bron i 30 mlynedd. Mae’n rhaglen hyblyg sydd wedi'i llunio ar gyfer oedolion nad ydynt wedi ennill llawer o gymwysterau yn yr ysgol ond sy'n dymuno paratoi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk