Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr o'r Rhyl a Weithiodd Ochr yn Ochr gyda Llawfeddygon yn y Phillipines yn ei Flwyddyn i Ffwrdd... Nawr yn Hyfforddi i fod yn Feddyg!

Mae Myfyriwr o Chweched y Rhyl a dreuliodd ran o'i flwyddyn i ffwrdd yn gweithio ochr yn ochr gyda Llawfeddygon mewn ysbyty ranbarthol yn y Phillipines nawr newydd ddechrau ei hyfforddiant i fod yn feddyg!

Mae Iarl Sapong 19 oed o'r Rhyl , sydd yn hannu yn wreiddiol o'r Phillipines ac a goronwyd yn "Fyfyriwr y Flwyddyn 2019" Coleg Llandrillo (Chweched y Rhyl), newydd ddechrau ei astudiaethau mewn Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

I baratoi ar gyfer sawl cyfweliad meddygol yn ymwneud gyda mynediad i brifysgol, trefnodd staff Chweched y Rhyl ffug gyfweliad ar gyfer Iarl gyda meddyg (cyn-Covid): Dr Laura Harrington yng Ngholeg Prifysgol Llundain.

Wedi ennill casgliad trawiadol o dystysgrifau lefel A - Maths A*/Bioleg A/Cemeg A a Bagloriaeth Cymru - dychwelodd Iarl (yngenir fel "Earl") i Chweched y Rhyl i gwblhau lefel A mewn Maths Pellach...mewn un flwyddyn!

Yn ystod ei flwyddyn i ffwrdd, i archwilio meddygaeth ymhellach, i ddechrau cysgododd Iarl dîm o feddygon GIG am wythnos. Dywedodd:

"Sylweddolais fod ffordd ddymunol gyda chleifion, ynghyd â chydymdeimlad, yn hanfodol. Roedd tosturi'r meddygon yn goleuo ystafell dywyll."

Yn dilyn ei gyfnod gyda'r GIG, ac yn chwilfrydig ynglŷn a nodweddion meddygon yn fyd-eang, gwirfoddolodd am wythnos mewn ysbyty ranbarthol yn y Philippines. Ychwanegodd Iarl:

"Sylweddolais yn y pen draw fod meddygaeth ynglŷn ag aberth. Tra yno, wrth ddadansoddi trawstoriad o aren galluogwyd fi i ddefnyddio agweddau o anatomeg roeddwn wedi eu dysgu wrth astudio ar gyfer fy lefel A yn Chweched y Rhyl."

Mae'n cydbwyso ei astudiaethau gyda chyflogaeth ran-amser yn MacDonald's a gwirfoddoli yn ei fanc bwyd lleol. Yn ei amser hamdden mae Iarl yn mwynhau chwarae'r gitar, ac mae'n darparu cerddoriaeth wythnosol ar gyfer offeren Dydd Sul, pan na fo'n gwasanaethu wrth yr allor. Mae hefyd yn dysgu myfyrwyr ysgol uwchradd ifanc ac mae wedi dysgu chwarae'r piano i safon gradd 5.

Gan siarad am ei amser yn Chweched y Rhyl, dywedodd Iarl:

"Gwnaeth astudio Lefel-A Bioleg finiogi fy sgiliau dadansoddol a dehongli data. Yn ychwanegol, miniogodd Cemeg fy meddwl dargyfeiriol, tra gwthiodd Maths fy ngalluoedd rhesymegol i wneud casgliadau beirniadol. Ar gyfer fy mhrosiect Baccalaureate, edrychais i mewn i ganser a thriniaethau gan gynnwys triniaethau megis imiwnotherapi."

"Teimlais wedi fy mharatoi ar gyfer bywyd prifysgol, mae'r annibyniaeth a ddysgwch wrth astudio ar gyfer Lefel A yn glynu. Wedi graddio, hoffwn arbenigo mewn lleoliad ysbyty. Amser a ddengys ai fel llawfeddyg neu ffisigwr fydd hynny. Fel arall, gallwn ymuno â'r Llynges fel swyddog meddygol."

"Felly, os ydych yn darllen hwn wrth geisio dewis coleg/ chweched dosbarth, dwi'n credu fod y gall Chweched y Rhyl gynnig pob peth rydych ei angen mewn un lle. Maent eisoes wedi danfon nifer o rai eraill i ysgolion meddygol a Rhydychen a Chaergrawnt!"

Dywedodd un o diwtoriaid Iarl yn Chweched y Rhyl, Andy Aitken:

"Roedd Iarl yn aelod eithriadol ddawnus, hoffus a chyfeillgar o garfan Chweched y Rhyl, ac fe roddwyd y teitl o "Fyfyriwr y Flwyddyn" Chweched y Rhyl iddo. Mae ei ddymuniad i ddod yn feddyg wedi ei wreiddio yn ddwfn yn ei allu i gyfuno ei ddealltwriaeth wyddonol gyda chymhwysiad clinigol. Dymunwn yn dda iddo yn ei yrfa i'r dyfodol."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lefel A yn Chweched Y Rhyl, Coleg Llandrillo - ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl - cysylltwch â'r coleg ar: 01745 354 797.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: rhyladmissions@gllm.ac.uk