Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y galw am sgiliau digidol yn parhau i dyfu yng Ngogledd Cymru

Mae'r galw am sgiliau digidol yn parhau i dyfu yng Ngogledd Cymru, wrth i'r economi a'r gweithlu rhanbarthol addasu i gwrdd â'r heriau a ddaeth yn sgil pandemig y coronafeirws.

Mae'r sector digidol yn un o'r meysydd twf allweddol a adnabuwyd gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, lle mae'r galw gan gyflogwyr yn fwy na'r sgiliau sy'n bodoli.

Awgryma ffigyrau a gyhoeddwyd gan y Bartneriaeth yn 2019 y bydd angen 14.7% yn fwy o bobl gyda'r cymwysterau perthnasol er mwyn llenwi swyddi proffesiynol yn y sector digidol hyd at 2024, ynghyd â chynnydd o 12.9% mewn sgiliau ar gyfer swyddi lled-broffesiynol a thechnegol.

Noda adroddiad Covid-19 diweddaraf y Bartneriaeth, 'Taro golwg ar y farchnad lafur yng Ngogledd Cymru' (Gorff-Awst 2020), y bydd galw'r sector digidol am sgiliau yn parhau i dyfu'n sylweddol er gwaethaf y pandemig.

Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn bartneriaeth wirfoddol ac yn un o ffrydiau gwaith Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru. Mae ei rôl yn cynnwys ymgysylltu gyda sectorau twf a diwydiannau yn y rhanbarth i adnabod anghenion sgiliau Gogledd Cymru yn awr ac i'r dyfodol.

Meddai David Roberts, Cadeirydd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol:

Mae'n hymchwil ni'n dangos fod y galw am sgiliau digidol wedi cynyddu yn ystod y pandemig - nid yn unig ymhlith diwydiannau digidol, ond ar draws pob sector.

Mae busnesau a chyflogwyr ym mhob maes wedi gorfod addasu eu dulliau gwaith a'r modd y maen nhw'n mynd â'u cynnyrch neu wasanaethau i'r farchnad. O'r herwydd rydyn ni wedi gweld cynnydd yn y defnydd o dechnolegau arlein, gyda phobl yn gweithio o bell trwy blatfformau digidol. Felly mae galw aruthrol am sgiliau fel datblygu meddalwedd, marchnata cymdeithasol ac e-fasnach, fwy nag o'r blaen hyd yn oed.

Allwn ni ddim pwysleisio digon, er gwaethaf heriau'r 'normal newydd', bod yna opsiynau cyffrous i bobl ifanc a bod cyflogwyr yn dal i fod ag angen am weithwyr gyda'r sgiliau a chymwysterau angenrheidiol. Mae yna hefyd gyfleoedd gwych i fusnesau sy'n gallu darparu gwasanaethau digidol.

Mae Neil Thomas yn rhedeg Brandified, asiantaeth ddigidol gyda'i swyddfa yn M-Sparc, Ynys Môn. Mae hefyd yn rhan o bartneriaeth greadigol, Het Greadigol, sy'n cynnwys tîm aml-ddisgyblaeth o ddylunwyr, datblygwyr gwefannau a chynhyrchwyr cynnwys - a dulliau digidol wrth graidd eu gwaith.

Graddiodd Neil o Goleg Menai gyda Diploma Genedlaethol BTec fwy na deng mlynedd yn ôl. Dywed y gall cymwysterau a sgiliau mewn pynciau digidol agor llawer o ddrysau - yn arbennig ar ôl Covid-19.

Meddai:

Mae busnesau digidol fel ni mewn sefyllfa berffaith i addasu i'r amgylchiadau presennol gan y gallwn wneud llawer o'r gwaith o bell yn unol â chyfyngiadau coronafeirws.

Rydyn ni'n sicr wedi gweld cynnydd mawr yn y galw am ein gwasanaethau wrth i fusnesau orfod symud llawer o'u masnachu, marchnata a gweithrediadau dydd-i-ddydd ar-lein. Mae medru cynnig y sgiliau digidol i'w helpu i wneud hynny'n rhoi mantais gystadleuol fawr i ni.

Mae'r sector digidol yn cynnig cyfleoedd gwych i fyw a gweithio mewn ardaloedd gwledig. Gyda chyfleusterau a chyrsiau o safon fyd ar gael gan ddarparwyr fel Grŵp Llandrillo Menai, ynghyd â chanolfannau creadigol ardderchol fel M-SParc, mae gennym ni bopeth yma sydd ei angen i lwyddo.

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn un o nifer o gyrff sy'n eistedd ar y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol. Meddai Dafydd Evans, y Prif Weithredwr:

Ein nod yw cefnogi economi Gogledd Cymru trwy roi'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen ar bobl leol, a gweithio gydag eraill i sicrhau fod y rhanbarth yn parhau i ffynnu.

Mae hyn yn bwysicach nawr nag erioed wrth i ni wynebu'r heriau economaidd sy'n deillio o'r argyfwng Covid-19. Bydd yr heriau hyn yn cael effaith sylweddol ar y gweithlu lleol, a phobl ifanc yn arbennig.

Ychwanegodd Dafydd:

Rydyn ni mewn cyswllt rheolaidd gyda chyflogwyr lleol i gael eu hadborth a monitro'r hyn y mae cwmnïau'n chwilio amdano. Y neges yn glir ganddyn nhw yw fod angen mawr am sgiliau mewn sawl un o'r sectorau twf, yn arbennig sgiliau digidol.

Mae gennym ni rôl o ran ymateb yn bositif i'r cyfle hwn trwy ddenu cymaint o ddysgwyr â phosibl ar gyfer ein cyrsiau galwedigaethol. Byddwn hefyd yn parhau i fuddsoddi yn ein hadnoddau dysgu i gefnogi datblygiad sgiliau. Yn ystod 2020 byddwn wedi gwario tua £2m ar ein hisadeiledd TG, yn cynnwys adnoddau Realiti Rhithwir.