Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr o'r Adran Adeiladu yn cipio teitl Prentis y Flwyddyn

Mae myfyriwr o adran Adeiladu Coleg Llandrillo a gynrychiolodd y DU mewn cystadleuaeth WorldSkills yn Rwsia llynedd, wedi cael ei enwi'n Brentis Plymio gorau'r DU!

Mae myfyriwr o adran Adeiladu Coleg Llandrillo a gynrychiolodd y DU mewn cystadleuaeth WorldSkills yn Rwsia llynedd, wedi cael ei enwi'n Brentis Plymio gorau'r DU!

Enillodd Tom Thomas, 21 oed o Borthmadog, myfyriwr Lefel 3 mewn Plymio a Gwresogi ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos, y gystadleuaeth 'HIP Prentis y Flwyddyn 2020'. Derbyniodd £1,000 ynghyd a gwerth miloedd o bunnoedd o offer safon diwydiant fel gwobrau. Derbyniodd Coleg Llandrillo fil o bunnoedd hefyd.

Mae Tom yn gweithio i AER Cymru ym Mhorthmadog ac yn dilyn cwrs yn y coleg un diwrnod yr wythnos. Daeth yn fuddugol yn y rownd derfynol a oedd wedi'i drefnu'n wahanol, yn dilyn cystadleuaeth frwd rhyngddo a dau fyfyriwr talentog arall ym maes plymio a gwresogi. Y ddau fyfyriwr arall yn y rownd derfynol eleni oedd Joseph Parkinson o University Academy Holbeach, Linconshire a Harry Pegler o South Gloucestershire and Stroud College, Bryste.

Cymerodd y dysgwyr ran mewn sail rownd ranbarthol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth ym mhob cwr o'r wlad, cyn i'r cyfnod clo olygu bod rhaid gohirio'r gystadleuaeth. Cwblhaodd y saith enillydd rhanbarthol brawf byr ar-lein ac ychwanegwyd eu sgôr ar ganlyniadau'r prawf rhanbarthol. Cynhaliwyd y rownd derfynol diwrnod o hyd i'r tri uchaf ar yr un pryd ond yn eu colegau eu hunain.

Meddai Tom, a enillodd le yn y rownd derfynol ar ôl ennill rownd y Gogledd Orllewin yn Burnley College:

"Roedd y gystadleuaeth yn wych, a dw i wrth fy modd i gael fy enwi'n brentis plymio gorau'r DU. Roedd y rownd derfynol ar lefel tipyn uwch na'r rownd ranbarthol - roedd yn her i gwblhau'r gwaith ar amser. Mae'n rhywbeth arbennig i'w ychwanegu at fy CV - os bydda i'n chwilio am waith yn y dyfodol, gallaf gyfeirio at hyn, mi fydd o fantais i mi."

"Mae wedi gwella fy sgiliau technegol ac mae'n eich annog i ganolbwyntio ar wneud yn siŵr bod pob elfen o'r gwaith yn fanwl gywir. Rhaid bod yn hyderus wrth eich gwaith yn hytrach nag amau eich hun."

Dywedodd Chris Walling, tiwtor Tom, y byddai'n ddigon hapus i gael Tom i wneud gwaith yn ei gartref. Ychwanegodd:

"Mae Tom yn fyfyriwr ymarferol ardderchog, ac mae'n ymroi'n llawn i'w waith. Treuliodd oriau lawer yn ymarfer yn ystod ei amser ei hun cyn y gystadleuaeth, ac mi dalodd hynny ar ei ganfed."

"Mae o'n gweithio'n dda yn y coleg a pham fyddwn ni'n ymweld ag o ar y safle mae'n hyderus iawn. Gall gyflawni unrhyw beth - mae ganddo'r sgiliau ymarferol, mae ei waith o ansawdd da ac mae'n gweithio'n dda. Pob lwc iddi i'r dyfodol; Rwy'n siŵr y bydd yn llwyddo beth bynnag bydd o'n dewis ei wneud."

Dywedodd noddwr Platinwm Colin Yearp o ADEY, o oedd yn beirniadu'r gystadleuaeth:

"Da iawn wir i bawb a gymerodd ran. Roedd gwaith y tri myfyriwr yn y rownd derfynol yn safonol iawn, mae hi'n wych i weld y genhedlaeth nesaf yn cyflawni gwaith cystal o dan bwysau."

Cynrychiolodd Thomas y DU yn rownd derfynol cystadleuaeth WorldSkills yn Kazan, Rwsia ac enillodd Fedal Rhagoriaeth. Daeth yn bedwerydd yn y byd am ei sgiliau plymio!

Cylchgrawn HIP ydy'r unig gylchgrawn i fyfyrwyr a phrentisiaid plymio a gwresogi yn y DU.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Adeiladu yng Ngholeg Llandrillo, ewch i www.gllm.ac.uk/construction

neu ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk