Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus y Rhyl yn Helpu i Blannu Gwrychoedd

Mae myfyrwyr o gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl wedi bod yn helpu ceidwaid mewn gwarchodfa natur leol i glirio ardaloedd yn barod ar gyfer plannu tegeirianau ac ailffurfio gwrychoedd er mwyn gallu adeiladu nythod ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.

Mae'r myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 1 yn gwirfoddoli yng ngwarchodfa natur Pwll y Brickfield, sydd wedi'i leoli drws nesaf i gampws y Coleg yn y Rhyl. Yn ystod eu cyfnod yn gwirfoddoli, mae'r myfyrwyr EPIC wedi dysgu am bwysigrwydd bioamrywiaeth leol, cynaliadwyedd a mannau gwyrdd.

Mae’r rhaglen EPIC yn gynllun addysg amgen a gynigir mewn colegau ledled Sir Ddinbych, sy’n darparu cyfleoedd i fyfyrwyr Blwyddyn 11 ennill cymhwyster mewn maes pwnc penodol: Adeiladu, Cerbydau Modur, Amaethyddiaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Trin Gwallt, TGCh ac ati. Byddai'r myfyrwyr hyn yn annhebygol o ennill eu TGAU yn yr ysgol am amrywiaeth o resymau.

Dywedodd Cara Baker, darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus: "Roedd hi'n hyfryd gweld cymaint o bobl ifanc yn gweithio er budd yr amgylchedd. Mae'r prosiect yn eu helpu i ennill oriau gwirfoddoli ar gyfer eu cwrs, wrth wneud cyfraniad i'r ardal leol ar yr un pryd. Ar ben hyn, maen nhw hefyd ar fin ennill eu gwobrau efydd Dug Caeredin. Mae pob un ohonynt wedi gweithio'n galed iawn ac maent yn gredyd i'r coleg."

Nid dyma'r tro cyntaf i fyfyrwyr o gampws y Coleg yn y Rhyl gefnogi'r agenda gwyrdd sydd ar dwf; ddwy flynedd yn ôl treuliodd bron i 100 o fyfyrwyr ddau ddiwrnod yn plannu dros 1,000 o goed yn y Rhyl a Phrestatyn.

Cynlluniwyd cyrsiau Coleg Llandrillo ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus i'ch paratoi ar gyfer gweithio yn y Lluoedd Arfog, yr Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans, y Gwasanaeth Tân, y Gwasanaeth Carchardai, sefydliadau cymunedol a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â'r gwasanaethau brys.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus neu unrhyw gyrsiau eraill ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, ffoniwch

01745 354 797.

E-bost: ymholiadau.rhyl@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk