Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Jack, y Llysgennad Prentisiaethau, wedi gwneud dewis doeth am yrfa fel cogydd

Yn ôl y prentis cogydd, Jack Quinney, roedd gadael cwrs gradd prifysgol mewn peirianneg sifil a mynd yn brentis cogydd yn ystod cyfnod clo pandemig Covid-19 yn ddewis doeth.

Mae Jack, 22, sy’n gweithio fel commis chef ym mwyty Sheeps and Leeks, Caernarfon, yn credu bod dysgu seiliedig ar waith yn ei siwtio i’r dim.

Mae wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol trwy City & Guilds, a gafodd ei chyflenwi’n ddwyieithog gan Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni ac wedi dechrau Prentisiaeth Lefel 3. Dechreuodd ei brentisiaeth tra oedd yn gweithio ym mwyty Sage Kitchen, Porthaethwy.

“Pe bawn i’n gwybod yn gynt, fyddwn i ddim wedi gwneud cwrs Lefel A,” meddai Jack. “Mi fyddwn i wedi dewis prentisiaeth. Rydych chi’n cael llawer iawn o brofiad yn eich maes a dyna beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

“Rydych chi’n ennill cyflog wrth ddysgu hefyd, yn hytrach na mynd i fwy o ddyled bob blwyddyn tra byddwch yn y brifysgol.”

Gan ei fod yn frwd o blaid prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog, mae Jack wedi’i benodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

“Wrth fod yn Llysgennad, dwi’n cael cyfle i hyrwyddo prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog, fi fy hun a’r busnes dwi’n gweithio iddo fo,” meddai Jack. “Dwi’n siarad Cymraeg er pan oeddwn i’n bedair oed a dwi’n meddwl ei bod yn bwysig hybu’r iaith a chadw’r diwylliant yn fyw.

“Mae gallu siarad Cymraeg a Saesneg yn fantais ym myd gwaith yng Nghymru achos mae gennych chi sgìl ychwanegol.

“Tra byddaf i’n Llysgennad, dwi eisiau canmol prentisiaethau wrth bobl rhag ofn nad ydyn nhw wedi’u hystyried fel opsiwn. Mae gen i brofiad o’r llwybr academaidd ac fe welais i nad oedd y brifysgol a gwaith academaidd ar y lefel honno yn fy siwtio i.”

Cymerodd Jack ran mewn sesiwn feddiannu Instagram a drefnwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r NTfW yn ystod yr Wythnos Brentisiaethau yng Nghymru. Ynddi, roedd yn sôn am ei waith ac roedd fideo’n ei ddangos yn gwneud risoto madarch a chennin.

“Dwi wedi bod yn coginio gartref er pan oeddwn i’n 11 ond roedd mynd i weithio mewn bwyty yn gam mawr ymlaen,” meddai. “Gan fy mod i’n mwynhau coginio gymaint, dydi o ddim yn teimlo fel gwaith. Dyma’r symudiad gorau y gallwn i fod wedi’i wneud yn fy ngyrfa.

“Fy uchelgais yn y dyfodol yw teithio oherwydd mae galw am gogyddion ym mhob rhan o’r byd.”

Yn ôl Tony Fitzmaurice, asesydd NVQ lletygarwch dysgu seiliedig ar waith yng Ngrŵp Llandrillo Menai, mae Jack yn “batrwm o lysgennad” ar gyfer prentisiaethau dwyieithog.

“Ail iaith yw’r Gymraeg i Jack a minnau,” meddai. “Trwy gydweithio, rydan ni wedi gwella Cymraeg ein gilydd – sy’n beth da iawn. Mae’r ddau ohonon ni’n dysgu’n gilydd a, gan amlaf, rydan ni’n sgwrsio yn Gymraeg yn ystod yr asesiadau.

“Mae ein dysgwyr ni i gyd yn cael cyfle i ddysgu yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog. Mae Jack yn ddysgwr gwych. Mae wrth ei fodd yn coginio ac yn awyddus iawn i gasglu gwybodaeth.”

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.”

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r drydedd flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i prentisiaethau neu ffoniwch 08445 460 460.