Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Car Rali yn ymweld ag Adran Cerbydau Modur

Yn ddiweddar, treuliodd car rali proffesiynol ddiwrnod ar gampws Coleg Menai yn Llangefni.

Mae'r Ford Fiesta M-Sport R5, sy'n eiddo i CSG Motorsports, yn cael ei ddefnyddio mewn rasys rali tarmac a chylchffordd.

Cafodd dysgwyr sy'n astudio cyrsiau Cerbydau Modur a Pheirianneg gyfle i ddysgu mwy am berfformiad y car yn ogystal â'r gwaith cynnal a chadw.

Dywedodd Damian Woodford, Rheolwr Maes Rhaglen Peirianneg,

"Rydym wir yn ddiolchgar i CSG Motorsports am eu haelioni yn caniatáu i'n dysgwyr dreulio'r diwrnod gyda'r car rali. Roedd yn brofiad arbennig iddyn nhw ddysgu mwy am y math yma o gerbyd a'r elfennau arbennig sy'n rhan o'i berfformiad a'r gwaith cynnal a chadw".

Dywedodd Daron Evans, Goruchwylydd Gweithdy a Mecanig Ceir Rali.

"Diolch i'r tîm, cafodd myfyrwyr sy'n astudio ar bob un o'r cyrsiau peirianneg gyfle i weld y gwaith a'r dulliau gwahanol sy'n rhan o gynhyrchu car fel hyn yn ogystal â chael golwg agos ar gar rali modern".

Dywedodd Arron Peel, Dirprwy Reolwr Maes Rhaglen ym maes Peirianneg,

"Dyma enghraifft wych arall o gydweithio gyda diwydiannau lleol i weld yr hyn y gellir ei gyflawni a'r cyfleoedd sydd ar gael yn y sector peirianneg".

"Diolch i CSG Motorsports - edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw eto yn y dyfodol!"