Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cytundeb i gynorthwyo darparu gweithlu datgomisiynu niwclear o'r radd flaenaf

Heddiw llofnododd Grŵp Llandrillo Menai, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru a Magnox Ltd gytundeb a fydd yn hwyluso'r gwaith o ddatblygu gweithlu rhanbarthol medrus i barhau i ddatgomisiynu gorsafoedd niwclear a chyfrannu at ddatblygiadau yn y dyfodol.

Bydd y cytundeb rhwng y partneriaid yn eu gweld yn datblygu asesiad hanfodol o sgiliau ar gyfer datgomisiynu niwclear yn rhanbarth gogledd Cymru yn y dyfodol. Yn y pen draw bydd hyn yn sicrhau bod yr hyfforddiant arbenigol sydd ei angen yn cael ei ddarparu'n lleol i fusnesau gan eu galluogi i elwa ar y gwaith a ddaw yn sgîl datgomisiynu, a bod pobl ifanc mewn addysg yn gallu manteisio ar gyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

Dywedodd David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru:

'Mae'r cytundeb hwn yn binacl y gwaith rhagorol mae'r prif bartneriaid a Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ystod y misoedd diwethaf, ac rydym ni'n llawn cyffro i weld cam nesaf y gwaith yn dechrau o ddifrif.'

Mae'r gwariant ar ddatgomisiynu yn y Deyrnas Unedig werth mwy na £2bn, gyda Magnox yn gwario dros £500m y flwyddyn ar ei 12 safle. Bydd newid yn y strategaeth yn golygu gweld dull gweithredu newydd yng ngorsaf bŵer Trawsfynydd yn awr a fydd yn cynnwys datgymalu'r adweithyddion yn llwyr.

Ychwanegodd Angharad Rayner, Cyfarwyddwr Safle Trawsfynydd:

"Rydym wrth ein boddau i fod yn rhan o'r prosiect arloesol hwn a fydd yn ein cynorthwyo wrth gynllunio ar gyfer y newid arwyddocaol yn y dull a ddefnyddir yn Nhrawsfynydd ac, yr un mor bwysig, ar gyfer y gwaith datgomisiynu sy'n parhau yn yr Wylfa.'

Meddai Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, y sefydliad fydd yn arwain ar gyflawni'r prosiect:

'Bydd y gwaith hwn yn cynorthwyo i edrych yn fanwl ar y sgiliau datgomisiynu sy'n ofynnol yn y tymor byr, canolig a hir a chredwn y bydd hyn yn fodel y gellid ei ddefnyddio ar gyfer sectorau a diwydiannau eraill.'

Bydd y prosiect yn cynnwys gweithio'n agos a Magnox a busnesau lleol sydd eisoes yn ymwneud a'r gwaith datgomisiynu, gan gynorthwyo i ddeall rhai o anghenion y busnesau a fydd yn chwarae rhan bwysig yn cyflawni'r gwaith i fynd i'r afael a gwaddol niwclear y Deyrnas Unedig.

Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS:

“Mae'n galonogol gweld cydweithredu rhagorol ar sgiliau yn y sector hanfodol bwysig hwn a bod cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cynorthwyo hyn, gan gefnogi ein huchelgais o sicrhau twf rhanbarthol.'

Bwriedir llunio adroddiad terfynol a chynnal digwyddiad i fusnesau ar ddiwedd y prosiect yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf, gan rannu'r canfyddiadau a chynorthwyo i hysbysu pa gamau eraill sydd eu hangen i sicrhau gweithlu o'r radd flaenaf yn y dyfodol.