Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr peirianneg Pwllheli yn cyrraedd rownd derfynol F1 mewn Ysgolion y Deyrnas Unedig

Mae myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor wedi cyrraedd rownd derfynol y DU yng nghystadleuaeth F1 mewn Ysgolion.

Bydd 'Team Come and Go', sy'n cynnwys myfyrwyr peirianneg o gampws Hafan Pwllheli, yn cystadlu yn Rotherham fis nesaf ar ôl iddynt ddylunio'r car cyflymaf yn rhagbrofion Gogledd Cymru.

Roedd gwobrau hefyd i dimau eraill o Bwllheli - 'Hafan Hamsters', a enillodd wobr am y portffolio peirianneg a dylunio gorau, a 'Yellow Peril', a enillodd wobr am yr hunaniaeth brand gorau.

Bu saith tîm yn cynrychioli campysau Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli a Dolgellau yn y digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Dinbych, gan gystadlu yn erbyn timau o bob rhan o Ogledd Cymru.

Roedd aelodau pump o dimau'r coleg yn dilyn cwrs BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Gyffredinol Uwch, a buont yn cystadlu yn y dosbarth datblygu yn erbyn Ysgol Tywyn, Ysgol Syr Hugh Owen, Dinbych, Cei Connah, Prestatyn a Chastell Alun.

Roedd aelodau'r ddau dîm arall yn dilyn cwrs BTEC Lefel 2 mewn Peirianneg Gyffredinol ar gyfer disgyblion 14-16 oed. Roedd y dysgwyr yma yn cynrychioli’r coleg yn ogystal â’u hysgolion: Ysgol Glan y Môr, Ysgol Botwnnog ac Ysgol Eifionydd.

Dyluniodd y timau o chwe myfyriwr eu ceir yn y coleg gan ddefnyddio Fusion 360, pecyn dylunio â chymorth cyfrifiadur, cyn eu gweithgynhyrchu ar beiriant melino CNC Denford.

Yna yn y digwyddiad yn Ninbych, fe wnaethon nhw rasio'r ceir bedair gwaith yr un dros drac gwastad, 20 metr, gan gyrraedd cyflymder o fwy na 35 milltir yr awr.

Bu'n rhaid i'r timau sicrhau nawdd i'w ceir gan fusnesau lleol, gan ddangos eu craffter busnes a marchnata. Cawsant eu beirniadu nid yn unig ar sail pa mor gyflym yr oedd eu car yn rasio, ond hefyd ar gyflwyniad llafar i feirniaid, ac ar eu portffolios peirianneg a menter.

Timau a noddwyr y coleg yn y dosbarth datblygu oedd: Team Come & Go (noddwyd gan CK Tools a Chwmni Arian Cyf), Hafan Hamsters (Pace Fire, MAC Fire and Safety, WRP Fire and Safety), Mach 7 (Milliput Dolgellau, Cwt Cybi), Meistri Meirionnydd (Automax Motorsport Dolgellau) a Yellow Peril (Deintyddfa Deudraeth, Dyffryn Seaside General Store, Victoria Inn Llanbedr).

Y timau a’r noddwyr yn y categori lefel mynediad oedd: Pwllheli Panthers (Clogau Motors Dolgellau) a Hadron (BEATServices).

Daeth Tîm Team Come and Go, oedd yn cynnwys Osian, Liam, Jac J, Jack T, Evan, Jack R a Gethin, yn ail ar draws y categorïau, gan gymhwyso ar gyfer rownd derfynol y DU, ynghyd â'r tîm buddugol - Tîm Elan o Ysgol Uwchradd Dinbych.

Mae Team Come and Go yn codi arian cyn rownd derfynol y DU yn Rotherham. I gyfrannu, ewch i’r dudalen GoFundMe yma.

Dywedodd Emlyn Evans, darlithydd Peirianneg ar gampysau Pwllheli a Dolgellau: “Mae cystadleuaeth F1 mewn ysgolion yn ased gwerthfawr ar gyfer addysgu a gwella pynciau STEM fel peirianneg.

“Mae’n wych fod ein myfyrwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn prosiect mor atyniadol, a gwerth chweil.

“Mae ein holl ddysgwyr wedi bod yn gweithio’n ddiwyd ar ddyluniad eu ceir rasio er mwyn bodloni’r rheoliadau technegol llym ar gyfer y gystadleuaeth. Maent wedi gweithio’n dda gyda’i gilydd ac rydym yn falch o’u cyflawniadau.”

Dechreuodd y myfyrwyr peirianneg dylunio ddysgu sut i ddefnyddio Fusion 360 ym mis Medi, gan ddefnyddio'r pecyn i greu delwedd a lluniadau gweithio cyn gweithgynhyrchu eu ceir rasio F1 yn y cam datblygu.

Roedd y prosiect yn cyd-fynd ag asesiad uned 2 y myfyrwyr Lefel 3, 'Cyflawni prosiect peirianneg yn ddiogel fel tîm'.

Meddai Emlyn: “Mae’n golygu bod ein myfyrwyr yn defnyddio’r sgiliau y maent wedi’u hennill fel rhan o’r cwrs Peirianneg Uwch Lefel 3. Mae hyn yn cynnwys dylunio gyda chymorth cyfrifiadur a gweithgynhyrchu ychwanegion, y ddau yn rhan o fodiwlau BTEC, tra bod sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a sgiliau cymdeithasol yn cael eu datblygu fel rhan o Fagloriaeth Cymru.

“Ar ôl datblygu’r sgiliau hyn, aeth y dysgwyr at gwmnïau lleol am gyfleoedd nawdd i ariannu eu cyfranogiad yn y digwyddiad, yn ogystal â gwneud eu gwaith codi arian eu hunain trwy argraffu addurniadau Nadolig 3D.”

Diolchodd Emlyn i holl noddwyr timau eleni, gan ddweud: “Eleni mae’r myfyrwyr wedi derbyn cefnogaeth aruthrol gan gwmnïau lleol sydd wedi noddi pob tîm. Roedd yn rhaid i'r timau godi arian i dalu’r ffioedd mynediad, deunyddiau, talu am ddillad tîm a chostau teithio i fynd i’r digwyddiad.

“Diolch yn fawr iawn i’r holl gwmnïau sydd wedi cefnogi ein timau eleni.”

Cefnogwyd y timau gan gyllid o Gynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) hefyd.

Ychwanegodd Emlyn: “Mae’r gefnogaeth a gawn gan EESW yn hanfodol i ganiatáu i’r gystadleuaeth ffynnu yn y dyfodol.

“Nid yw’r cyllid y mae EESW yn ei dderbyn gan gynghorau lleol wedi’i warantu, ond rydym yn gobeithio, trwy hyrwyddo llwyddiant ein timau, y bydd yn dangos ei werth fel buddsoddiad gwerth chweil. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr y dyfodol ddilyn yn ôl troed llawer o dimau eraill o Gymru sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol y DU a’r byd.”

Dywedodd Stephen Lane, Rheolwr Gweithgareddau EESW: “Mae her F1 mewn Ysgolion yn ysbrydoli myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau STEM a dysgu am ffiseg, aerodynameg, dylunio, gweithgynhyrchu, brandio, graffeg, nawdd, marchnata, arweinyddiaeth/gwaith tîm, sgiliau cyfryngau a strategaeth ariannol, a’u cymhwyso mewn ffordd ymarferol, llawn dychymyg, sy'n gystadleuol ac yn gyffrous.

“Mae EESW yn gobeithio cael cyllid parhaus er mwyn parhau i gyflwyno’r gweithgaredd ledled Cymru'r flwyddyn nesaf.”

Eisiau dysgu mwy am fyd cyffrous peirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai? Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau yma.