Myfyrwyr Celf Coleg Menai yn Cael Ysbrydoliaeth o Orielau Tate Llundain
Yn ddiweddar, aeth myfyrwyr gradd Celf Coleg Menai ar daith astudio ysbrydoledig i Lundain, i gael eu trochi mewn ystod eang o arddangosfeydd, orielau a chasgliadau enwog.
Cafodd dysgwyr y cyfle i edrych ar gelf gyfoes a chelf hanesyddol yn y Tate Modern a'r Tate Britain, casglu ymchwil ar gyfer eu harferion eu hunain, a dyfnhau eu dealltwriaeth o'r byd celf.
Roedd y daith yn rhoi cyfle iddyn nhw weld y gweithiau maen nhw wedi’u hastudio gyda'u llygaid eu hunain, gan ganiatáu profiad uniongyrchol o weithiau nad oedden nhw ond wedi’u gweld mewn llyfrau neu ar-lein o’r blaen. Roedd llyfrau braslunio a chamerâu yn cael eu defnyddio drwy gydol y daith, wrth i fyfyrwyr ddogfennu eu profiadau.
Yn Tate Modern, cafodd myfyrwyr gyfle i weld arddangosfeydd celf gyfoes blaenllaw, gan gynnwys gosodweithiau ar raddfa fawr, gweithiau fideo arbrofol, cerfluniau a gwaith peintio. Anogwyd myfyrwyr i ymgysylltu'n feirniadol â themâu a archwiliwyd o fewn arddangosfeydd, a chymryd digon o nodiadau a ffotograffau i'w defnyddio yn eu gwaith stiwdio yn ôl yn y coleg.
Tra roedden nhw yn y Tate Britain, cafodd y myfyrwyr eu trochi yn hanes cyfoethog celfyddyd Prydain, o weithiau rhamantus Turner i ddarnau allweddol gan artistiaid yr ugeinfed ganrif fel Barbara Hepworth a Francis Bacon, a gweithiau cyfoes gan artistiaid fel Chris Ofili.
Esboniodd Helen Jones, Arweinydd y Cwrs,
“Roedd y daith astudio i Lundain yn brofiad gwych a oedd yn caniatáu i fyfyrwyr roi cyd-destun i gelfyddyd gain hanesyddol a chyfoes trwy brofiad uniongyrchol. Bydd yn ehangu eu dealltwriaeth o’u harferion eu hunain wrth ddatblygu eu gwaith stiwdio drwy gydol y cwrs.”
“I lawer, fe wnaeth y gwrthgyferbyniad rhwng y ddau gasgliad Tate sbarduno dadl fywiog ynghylch sut mae traddodiadau’n esblygu a sut mae artistiaid cyfoes mewn deialog gyson â’r gorffennol”
“Manteisiodd y myfyrwyr yn llawn ar y cyfle i fraslunio, cymryd nodiadau a thynnu ffotograffau o weithiau celf a oedd yn atseinio â’u themâu personol. Rhoddodd yr amrywiaeth o weithiau celf yn y ddau leoliad olwg ffres ar wahanol gyfryngau, arddulliau, a dulliau curadurol – sy'n hanfodol i artistiaid ifanc allu ddatblygu eu lleisiau eu hunain. Bydd yr arsylwadau hyn yn bwydo'n uniongyrchol i'w prosiectau a'u gwaith stiwdio.
Ychwanegodd Adam Nelson, dysgwr blwyddyn gyntaf,
“Mi wnes i fwynhau'r daith i'r Tate Modern a'r Tate Britain. Roedd Solid Light gan Anthony McCall yn sefyll allan go iawn — mi ges i fy swyno, ac roedd yn hawdd ymgolli ynddo fo. Roedd yn wych gweld cymaint o weithiau artistiaid gyda fy llygaid fy hun. Roedd yn brofiad wnaeth fy ysbrydoli"