Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaid Grŵp Llandrillo Menai'n rhagori ym maes Peirianneg

Yn diweddar daeth Prentisiaid Peirianneg o Grŵp Llandrillo Menai ynghyd yn RAF y Fali ar gyfer Diwrnod i Ddathlu Cyflawniadau Prentisiaid.

Roedd y diwrnod yn dathlu llwyddiant prentisiaid Babcock sydd wedi cael swyddi llawn amser yn RAF y Fali ar ôl cwblhau eu prentisiaethau ym maes Peirianneg Awyrennau.

Agorwyd y digwyddiad gan y Cadlywydd Adain, Bruce McKenna, a bwysleisiodd pa mor allweddol oedd peirianneg i ataliaeth arfog y Deyrnas Unedig, gan alluogi ymateb cyflymach a mwy effeithlon.

Derbyniodd Nash Costigan a Nathanial Evans wobrau am eu datblygiad personol gan yr Institute of Engineering Technology a chafodd pob un o'r saith prentis eu cydnabod gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru am ddangos rhagoriaeth ym maes peirianneg.

Mae Grŵp Llandrillo Menai a Babcock wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ers 2016, ac erbyn hyn mae 56 prentis wedi cwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus. Mae llawer wedi mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus gyda Babcock ar Ynys Môn a ledled y byd.

Mae naw prentis yn dilyn y rhaglen ar hyn o bryd ac mae'r broses recriwtio ar gyfer 2024 eisoes ar y gweill.

Meddai Aled Jones-Griffith – Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym yn hynod falch o’r prentisiaid sydd wedi gweithio mor galed i ragori yn y gweithle. Mae’n wych gweld pobl ifanc leol yn hyfforddi ac yn cael gwaith gyda chwmni nodedig fel Babcock, ac mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch o fod yn gweithio’n agos gyda diwydiant i ddatblygu rhaglenni sy’n darparu hyfforddiant rhagorol.”

Ychwanegodd Chloe Young, Rheolwr Gyfarwyddwr UK Aviation yn Babcock: "Mae ein partneriaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai yn RAF y Fali yn parhau i fod yn llwyddiant mawr. Mae ein prentisiaid yn cael profiad ymarferol mewn amgylchedd addysgol gwirioneddol unigryw sy'n eu hannog i ffynnu a llwyddo.

“Dylent fod yn eithriadol o falch o'r hyn maen nhw wedi'u gyflawni, ac rydw i'n siŵr fod ganddynt i gyd ddyfodol disglair iawn o'u blaenau. Diolch am eich gwaith caled dros y ddwy flynedd diwethaf a da iawn chi!”