Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Camu i'r Sector Gofal

Mae partneriaeth rhwng Coleg Menai a Chyngor Sir Ynys Môn yn parhau i fynd o nerth i nerth wrth i fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol gael cyfle i dreulio wythnos gyfan ar brofiad gwaith gyda staff Gofal Cymdeithasol cymwysedig yr Awdurdod Lleol.

Datblygwyd y rhaglen “Camau i'r maes Gofal” dros ddwy flynedd yn ôl er mwyn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr cyrsiau Lefel 2 a Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Menai gysgodi staff Gwasanaethau i Oedolion a Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd Cyngor Sir Ynys Môn. Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i roi eu gwybodaeth ar waith, i arsylwi ar ymarfer proffesiynol ac i ennill profiad mewn lleoliadau gofal go iawn.

Yn ddiweddar daeth Fôn Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn i'r coleg i gyflwyno'r cynllun i'r myfyrwyr sy'n dilyn y cyrsiau eleni. Esboniodd mai dim ond i fyfyrwyr Coleg Menai y mae'r lleoliadau hyn ar gael ac maent yn cael eu cynnig mewn amrywiol wasanaethau, gan gynnwys Cartrefi Gofal, timau Iechyd Meddwl a thimau Byw â Chymorth a lleoliadau Gofal Plant.

Pan fydd myfyrwyr wedi llwyddo i fynd ar brofiad gwaith i un o'r lleoliadau hyn, gallant gael eu rhoi ar lwybr carlam i wneud gwaith llanw ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau a/neu ddechrau chwilio am waith gyda'r Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Bydd y myfyrwyr yn cael mentor personol i'w cefnogi tra byddant ar y profiad gwaith a byddant hefyd yn cael Llawlyfr yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor ymarferol.

Meddai Catherine Smith, Rheolwr y Maes Rhaglen Iechyd a Gofal yng Ngholeg Menai, “Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn gweithio ochr yn ochr gyda Chyngor Sir Ynys Môn i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau posibl yn y diwydiant Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Mae'r bartneriaeth yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr i'n myfyrwyr, a drwy'r broses ymgeisio a dethol yn rhoi iddynt hefyd sgiliau cyflogadwyedd da. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas gyda'r Awdurdod Lleol ac at weld pa gyfleoedd eraill sy'n bosib drwy gydweithio!”

Meddai Fôn Roberts, “Dyma gynllun gwych a fydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr ifanc lleol gael profiad uniongyrchol o weithio yn y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y dysgwyr yn gweithio ochr yn ochr gyda gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol proffesiynol a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u harferion gwaith.”


Ychwanegodd, “Mae'r Cyngor Sir yn falch o'i bartneriaeth gref â Choleg Menai, ac roedd yn wych cyfarfod â'r bobl ifanc. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn rŵan at gydweithio ymhellach i sicrhau bod rhagor o gyfleoedd positif fel hyn ar gael.”