Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gêm gyntaf Patrick i dîm Dan 20 Cymru

Mae Patrick Nelson, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo wedi cael ei enw yn nhîm Dan 20 Cymru fydd yn chwarae nos Wener ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad

Bydd Patrick Nelson, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo yn chwarae ei gêm gyntaf dros dîm Dan 20 Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y gêm yn erbyn Lloegr.

Mae Patrick sy'n byw yn y Rhyl, yn chwarae dros Rygbi Gogledd Cymru yn safle'r prop. ⁠Dilynodd gwrs Lefel 3 mewn Peirianneg Forol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ac roedd yn rhan o Academi Rygbi Llandrillo.

Mae wedi cael ei enwi yn nhîm Dan 20 Cymru fydd yn teithio i chwarae ar gae rygbi Caerfaddon nos Wener.

Dechreuodd ymgyrch tîm Dan 20 Cymru nos Wener ddiwethaf gyda buddugoliaeth 37-29 yn erbyn yr Alban ar Barc Eirias, Bae Colwyn.

Mae'r prif hyfforddwr, Richard Whiffin, wedi gwneud tri newid i'r tîm a gurodd yr Alban, yn safleoedd y pac, ac mae Patrick yn un o'r newidiadau hynny.

Meddai'r hyfforddwr: "Mi wnaeth yr hogiau chwarae'n dda iawn yn erbyn yr Alban. Roedden ni'n gweld hyn fel cyfle i ddod ag aelodau newydd i'r pac ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr - bydd cyfle i fod yn gyson o ran maint yn y safleoedd gosod a chynnig rhywbeth gwahanol ar y maes chwarae.

Dyma gyfle gwych i serennu - 14,500 yn y 'Rec' - stadiwm arbennig, Cymru v Lloegr. Bydd y bechgyn yn elwa'n fawr o'r profiad, a dyma'r math o brofiadau sy'n werthfawr iawn i chwaraewyr ifanc.”

Dywedodd Josh Leach, rheolwr perfformiad RGC: "Mae pawb yn RGC yn falch iawn bod Patrick wedi ennill ei gap cyntaf i dîm Dan 20 Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Mae Patrick yn un o nifer o chwaraewyr talentog sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen ddatblygu RGC. Ymhlith yr enwau eraill mae Owain Evans (Clwb Rygbi Llangefni) a Huw Davies (Clwb Rygbi Bethesda) a ddewiswyd i chwarae i'r tîm Dan 20 y llynedd.

“Fel y chwaraewyr eraill, mae Patrick wedi gweithio'n galed iawn dros y blynyddoedd diwethaf i gyrraedd y safon ac ennill ei le.

⁠”Mae wedi wynebu nifer o heriau ar y daith ac roedd yn anlwcus i beidio cael ei ddewis y llynedd, ac mae cryn gystadleuaeth am bob safle ymhlith tîm y dynion. Ond mae'r heriau hynny wedi ei wneud yn fwy penderfynol i lwyddo. Mae wedi ymateb yn wych i bob her a dyfal barhau yn hytrach nag ildio fel byddai pobl eraill wedi gwneud, mae hynny'n dangos ei werth.

“Dechreuodd Patrick chwarae rygbi yng Nghlwb Rygbi'r Rhyl cyn symud ymlaen i raglen datblygu RGC yn 15 oed ac yna i Goleg Llandrillo a'r Academi Rygbi yno.

⁠”Mi ddatblygodd Patrick fel chwaraewr yn ystod y cyfnod hwn. Roedd yn hyfforddi bob dydd ac yn chwarae gemau ar y safon uchaf drwy'r tymor, ac mi wnaeth hynny osod sylfeini cadarn i'w ddatblygiad fel chwaraewr. Mae'n wych gallu ychwanegu enw chwaraewr rhyngwladol arall at restr anrhydeddau Coleg Llandrillo."

Bydd Cymru Dan 20 yn wynebu Lloegr Dan 20 ar gae Recreation Ground yng Nghaerfaddon nos Wener, 7 Chwefror (y gic gyntaf am 7.15pm)