Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr cwrs Cerbydau Modur ar bigau'r drain i glywed a fydd yn cyrraedd Rownd Derfynol WorldSkills

Llwyddodd myfyriwr sy'n astudio cwrs Cerbydau Modur ar gampws y Rhyl i ennill y fedal arian yn rownd derfynol WorldSkills UK y llynedd, ond nawr mae wedi mynd gam ymhellach! Eleni, mae wedi ennill y wobr aur a gwobr talent newydd y diwydiant yng nghystadleuaeth Trwsio Cyrff Cerbydau!

Yn awr mae'n rhaid i Tiler Moorcroft-Jones aros i glywed a yw wedi hawlio lle ar yr awyren i Shanghai i gynrychioli Prydain yn y rownd derfynol fyd-eang y flwyddyn nesaf.

Roedd yn cystadlu yn erbyn pump o fyfyrwyr cyrsiau Trwsio Cyrff Cerbydau o bob cwr o Brydain yn y rowndiau terfynol cenedlaethol a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.

Roedd yn rhaid i bob un o'r chwech fynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau gwahanol o fewn cyfnod penodol o amser. Roedd yr heriau hyn yn cynnwys gwneud gwaith jig manwl, newid panel chwarter mewn pum awr a thrwsio adain heb ddefnyddio llenwad.

Mae Tiler sy'n byw yn Johnstown yn gweithio i Body Perfect, yn Wrecsam, ac yn cyfuno ei ymrwymiadau gwaith â'i hyfforddiant yng Ngholeg Llandrillo ar gampws y Rhyl.

Dywedodd: "Dw i ar ben fy nigon gyda'r fedal aur, a fedra' i ddim aros i gynrychioli Prydain yn Shanghai y flwyddyn nesaf".

Dywedodd ei diwtor Ben King: "Rydym wrth ein bodd dros Tiler; am lwyddiant. Mae'n gweithio'n galed ac wedi ymrwymo i'r gwaith, ac mae'r rhinweddau hyn wedi talu ar ei ganfed. Mae pob un o'r tiwtoriaid yn gobeithio y bydd yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol fyd-eang".

Bellach, mae gan Tiler y set gyfan o fedalau, wedi iddo ennill y fedal efydd yn rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn 2019. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru'n gyfres o ddigwyddiadau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru er mwyn dathlu sgiliau galwedigaethol ac yn rhan o'r gystadleuaeth fyd-eang WorldSkills.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Coleg Llandrillo ym maes Cerbydau Modur, cysylltwch â'r coleg ar 01745 354 797, neu e-bost: rhyladmissions@gllm.ac.uk neu drwy fynd i www.gllm.ac.uk