Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwaith Cyn-fyfyriwr mewn Gŵyl Gwneuthurwyr Ffilmiau Ifanc

Mae gwaith gwneuthurwr ffilmiau addawol wedi cael ei ddangos yn yr ŵyl 'Ffilm Ifanc' eleni.

Dilynodd Gwenno Llwyd Till, o Gricieth, y cwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai rhwng 2019 a 2020, gan gwblhau ei phrosiect terfynol gartref oherwydd Covid-19.

A hithau erbyn hyn ar ei hail flwyddyn, mae Gwenno'n astudio Ffilm a Theledu yng Ngholeg Cyfathrebu Llundain (sy'n rhan o Brifysgol Celfyddydau Llundain), yn ardal Elephant and Castle.

Dewiswyd ffilm Gwenno, sef ‘Pwy Wyt Ti?’, i fod yn rhan o'r grŵp 'Ffilm Ifanc' yn gynharach eleni. Seiliodd y ffilm arni hi ei hun ac archwilia'r math o berson yw hi.

Creodd y ffilm yn y Gymraeg, gydag isdeitlau Saesneg, er mwyn ceisio hyrwyddo'r iaith, a defnyddiodd gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan ei ffrind, Sion Garton-Jones, cyn-fyfyriwr o adran Technoleg Cerdd Coleg Menai.

Mae 'Ffilm Ifanc', a gefnogir gan Ŵyl Ffilmiau Ryngwladol Wicked Wales a Chanolfan Ffilm Cymru, yn dathlu gwneuthurwyr ffilmiau sy'n gweithio yng Nghymru neu'n hanu o Gymru ac sydd dan 26 oed. Gobeithia'r ŵyl godi proffil ffilmiau a wnaed yng Nghymru gan gyfarwyddwyr/cynhyrchwyr/awduron ifanc, gan gynnig hyfforddiant, cyfleoedd i wella sgiliau a phrofiad gwaith i aelodau grŵp Ffilm Ifanc.

Meddai Gwenno,

"Rydw i'n hynod ddiolchgar i'r tiwtoriaid ym Mharc Menai – Owein, Iwan, Miranda, Tim, a Darren – mi ges i gymaint o hwyl ar y cwrs ac mi roddodd gyfle i mi werthfawrogi gwahanol ddulliau o weithio fel artist ac o arbrofi gyda gwahanol arddulliau. Roedd yn gyfle i mi weithio ar fy liwt fy hun a chael rhyddid, ond arweiniad penodol hefyd. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i lle'r ydw i rŵan heb fod wedi mynychu'r cwrs!"

"Ar ôl cwblhau fy astudiaethau, rydw i'n gobeithio gweithio yn y diwydiant ffilmiau. Mi hoffwn i ganolbwyntio ar ddogfennu'r amgylchedd a'r byd sydd o'n cwmpas. Mi fyddwn i wrth fy modd yn sefydlu fy nghwmni cynhyrchu fy hun ryw ddydd, gan gyflogi merched dawnus yn y diwydiant".

I gael gwybod rhagor am 'Ffilm Ifanc', cliciwch yma.