Myfyrwyr Lefel A yn cael eu hysbrydoli gan gyn Prif Weinidog.
Yn ddiweddar mi gafodd myfyrwyr Lefel A ar gwrs Y Gyfraith, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth y cyfle i wrando ac i ddysgu gan gyn Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones mewn sesiwn ar-lein.
Mae’r cwrs yn cael ei gynnig fel rhan o ddarpariaeth Sgiliaith yn Grŵp Llandrillo Menai er mwyn cyfuno'r egwyddor o ehangu'r ddarpariaeth gwricwlaidd a gynigir yn Gymraeg neu'n ddwyieithog, yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda dulliau addysgu arloesol.
Hyfforddodd Carwyn fel bargyfreithiwr yn Ysgol y Gyfraith, Neuaddau'r Brawdlys Llundain ac fe'i galwyd i’r Bar yn Gray's Inn ym 1989. Dechreuodd arfer ei grefft fel bargyfreithiwr a bu mewn practis cyfreithiol am 10 mlynedd yn Siambrau Gŵyr, Abertawe. Am ddwy flynedd, bu Carwyn hefyd yn gweithio fel tiwtor proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd ar Gwrs Galwedigaethol y Bar.
Etholwyd Carwyn Jones i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Cafodd ei benodi’n Ddirprwy Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Thir, Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn Weinidog dros Lywodraeth Agored yn Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, gan ddal y swydd honno tan fis Mai 2007. Yn dilyn cyfnod byr fel y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, daeth yn Gwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ.
Daeth yn Brif Weinidog ac Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2009.
Dywedodd Rebecca Ephraim, Darlithydd Lefel A Y Gyfraith yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau.
“Nid gormodedd ydi datgan bod Carwyn Jones yn gawr yn y byd cyfreithiol a gwleidyddol yng Nghymru. Mae cael y cyfle i wrando ac i sgwrsio gyda pherson sydd wedi chware rhan ganolog ym mywyd cyfansoddiadol Cymru yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf, wirioneddol yn amhrisiadwy i’n myfyrwyr.”
Ychwanegodd
“Roedd ei gyngor i’r myfyrwyr yn anhygoel, trafodwyd sut i siarad yn gyhoeddus, pwysigrwydd cyfraith achos, ac yn arbennig ei ddamcaniaeth ynglŷn â’r gwahaniaethau sydd wedi bod rhwng ymateb Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain i Cofid-19.”
“Roedd geiriau olaf Carwyn Jones yn ysbrydoliaeth, pan ddywedodd - "peidiwch â gadael i unrhyw un wneud i chi feddwl eich bod ddim digon da, mi allwch chi wneud unrhyw beth rydych chi ei eisiau. Nid oes unrhyw un yn well na neb yn y byd hwn, waeth beth fo'u cefndir neu acen "
Am ragor o wybodaeth am gyrsiau Lefel A Dysgu o bell a ellir eu darparu drwy sefydliadau Uwchradd cysylltwch gyda sgiliaith@gllm.ac.uk