Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr Trin Gwallt Coleg Llandrillo yn agor salon trin gwallt newydd... yn Awstralia!

Cafodd myfyrwyr trin gwallt Llandrillo'r cyfle i holi un o gyn-fyfyrwyr Trin Gwallt y coleg, sydd wedi ennill llu o wobrau a newydd agor ei salon trin gwallt ei hun yn Awstralia yn ddiweddar!

Daw Dion Padan o Gerrigydrudion yn wreiddiol a bu'n astudio yn salonau hyfforddiant y coleg yng nghampws Llandrillo-yn-Rhos. Dychwelodd i Goleg Llandrillo (trwy gyfrwng galwad Zoom) i roi cynghorion i'r myfyrwyr cyfredol am yr hyn sydd ei angen i lwyddo yn y diwydiant trin gwallt, ac ateb unrhyw gwestiynau llosg gan y myfyrwyr.

Mae Dion wedi cael gyrfa lewyrchus yn y diwydiant gwallt am dros chwarter canrif, gan ennill gwobr 'The Nation's Favourite Hairdresser' yn 2009. A daeth yn agos i'r brig yng nghystadleuaeth 'American Crew Face-off' a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn yr un flwyddyn. Bu ar y rhestr fer ranbarthol yn L'Oreal Colour Trophy Mens Image Awards bob blwyddyn o 2011 i 2014. Mae Dion wedi gweithio gyda llu o enwogion, yn cynnwys steilio gwallt Brandon Flowers, prif leisydd The Killers.

Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant yng Ngholeg Llandrillo yn 1999, bu Dion yn gweithio i sefydliadau trin gwallt lleol cyn agor salonau yn Lerpwl. Ei freuddwyd oedd symud i Awstralia, ac aeth i fyw a gweithio yn Sydney. Erbyn hyn mae'n byw ac yn gweithio yn Darwin, lle bu'n gweithio i gadwyn barbwr o'r enw Tommy Gun's, cyn agor ei salon trin gwallt ei hun yn ddiweddar o'r enw The Editor.

Meddai Dion: "Mae'n gymaint o bleser rhannu fy stori gyda myfyrwyr Llandrillo bob amser. Mae'n gyffrous gwylio eu siwrne nhw, gweld sut maen nhw'n datblygu i fod yn drinwyr gwallt a barbwyr proffesiynol. Rwy'n gobeithio y byddaf yn medru galw heibio i'ch gweld chi y tro nesaf y bydda i adref. Diolch unwaith eto, mae'n golygu cymaint i mi."

Roedd yr adborth gan y myfyrwyr yn cynnwys: "ffantastig, ysbrydoliaeth i mi," "roedd o'n gwneud i mi deimlo y medrwn i goncro'r byd," "fe ddangosodd beth fedrwn i'w gyflawni petawn i'n gwireddu fy mhotensial" a "Nawr rydw i'n deall pam mor bwysig ydi marchnata a brandio."

Dywedodd tiwtor a chydlynydd Trin Gwallt Coleg Llandrillo, Wendy Jones: "Mae Dion yn gredyd i'r diwydiant ac mae bob amser yn annog ein myfyrwyr i ddilyn eu breuddwydion. Mae wedi bod yn y coleg lawer gwaith i arddangos ei sgiliau a chafodd tri aelod o staff wahoddiad i'w salon trin gwallt 'Hooka' yn Lerpwl i ymuno â'i staff mewn sesiynau hyfforddiant. Mae'n gefnogol iawn i ni yn yr adran Trin Gwallt/Gwaith Barbwr."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Trin Gwallt yng Ngholeg Llandrillo, neu ar unrhyw rai o gampysau Grŵp Llandrillo Menai, cysylltwch â thîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg ar 01492 542 338. Mae Coleg Llandrillo'n rhan o Grŵp Llandrillo Menai.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk