Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cydnabod y Bartneriaeth Rhwng Busnes@LlandrilloMenai a Chwmni Babcock mewn Gwobrau Cenedlaethol

Mae partneriaeth strategol rhwng y darparwr hyfforddiant dysgu seiliedig ar waith arbenigol Busnes@LlandrilloMenai a Babcock International Group wedi’i chydnabod yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru Llywodraeth Cymru a gynhaliwyd yng Nghasnewydd.

Roedd cwmni Babcock ar y rhestr fer am y Wobr Macro Gyflogwr i bartneriaeth strategol sydd wedi defnyddio rhaglen Brentisiaeth Llywodraeth Cymru. Mae Babcock wedi hyfforddi a datblygu 171 o beirianwyr awyrennau hyd yn hyn, gyda 29 o brentisiaid eraill yn gweithio i gwblhau eu prentisiaeth ar hyn o bryd.

Ers lansio'r bartneriaeth yn 2016, gall myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu cymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrennau gyda Grŵp Llandrillo Menai wneud cais am le ar Raglen Brentisiaeth Peirianneg Awyrennau Babcock. Bob blwyddyn, mae'r cwmni'n recriwtio rhwng chwech ac wyth prentis Peirianneg Awyrennau. ⁠Mae’r cystadlu am brentisiaethau'n frwd ac mae’r cyfweliadau ar gyfer criw 2024-25 yn cael eu cynnal yn awr.

Mae mwyafrif y peirianwyr a gwblhaodd y Rhaglen Prentisiaeth Peirianneg Awyrennau wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn Babcock. Mae llawer yn rhan o hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o beilotiaid awyrennau ymladd trwy gynnal yr awyrennau Hawk T2 sy'n hedfan o safle RAF y Fali, tra bod eraill wedi datblygu eu gyrfaoedd gyda Babcock trwy fanteisio ar gyfleoedd byd-eang.

Esboniodd Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr - Datblygiadau Masnachol:

“Rydym yn falch iawn o'r berthynas rydym ni wedi'i meithrin gyda Babcock, a hoffwn longyfarch y tîm cyfan ar gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru Llywodraeth Cymru.

“Mae’r bartneriaeth strategol gyda Babcock yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei wneud pan fydd y sector addysg a’r sector preifat yn cydweithio i sicrhau sgiliau a fydd o fudd gwirioneddol i’r rhanbarth, i'r unigolion ac i'r economi.

“Pwrpas Busnes@LlandrilloMenai yw gweithio gyda busnesau ar draws Gogledd Cymru i ddatblygu partneriaethau hirdymor a fydd yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i leoedd, pobl, yr economi a busnes – partneriaethau sy’n creu swyddi a ffyniant, fel y bartneriaeth hon gyda Babcock.”

Ychwanegodd Chloe Barker, Rheolwr Gyfarwyddwr busnes Awyrenaeth Babcock yn y Deyrnas Unedig:

“Rydym ni'n hynod falch o'r bartneriaeth rydym wedi'i hadeiladu gyda Busnes@LlandrilloMenai i gyflwyno'r rhaglen brentisiaeth ragorol hon.

“Mae Babcock wedi ymrwymo i gyfrannu at y cymunedau y mae’n gweithredu ynddyn nhw, ac mae’r rhaglen hon yn rhoi llwybr i bobl ifanc Ynys Môn i barhau â’u haddysg, wrth lunio llwybr gyrfa i'r dyfodol.

“Rydym yn edrych ymlaen at dyfu ein partneriaeth a pharhau i gefnogi’r gymuned leol nawr ac yn y dyfodol.”