Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hybu sgiliau coginio mewn dosbarth cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog

Mae dosbarth coginio cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog wedi helpu pobl i fagu hyder yn eu sgiliau coginio a dysgu am bwysigrwydd maeth.

Mae 'Potensial', y ddarpariaeth Dysgu Oedolion a Chymunedol yng Ngrŵp Llandrillo Menai, yn cyflwyno sesiynau 'Coginio i Ddechreuwyr' mewn gwahanol leoliadau ar draws Gwynedd a Môn. Mae unigolion yn cofrestru am chwe wythnos i ddechrau, gyda chyfle i barhau dros y tymor neu'r flwyddyn academaidd.

Yn y sesiynau coginio ymarferol yn 'Y Ganolfan' ym Mlaenau Ffestiniog dan arweiniad Louise Howe, dysgwyd sgiliau gwerthfawr gan gynnwys coginio ar gyllideb, paratoi prydau o'r newydd, a lleihau gwastraff bwyd.

Mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, arweiniodd Cassie, sy’n aelod o’u Tîm Deieteg, sesiwn goginio yn seiliedig ar faetheg. Bwriad y sesiwn oedd cyfoethogi eu dealltwriaeth o’r cysylltiad pwysig rhwng maeth a lles, trwy gyfuno arddangosiadau coginio ymarferol gyda theori maetheg.

Mae'r adborth gan y rhai oedd ar y cwrs wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda dysgwyr yn mynegi hyder newydd yn eu coginio, a gwerthfawrogiad dyfnach o bwysigrwydd maeth o ddydd i ddydd.

Eglurodd Eric Williams, un o'r rhai a gymerodd ran:

“Dw i wedi mwynhau’r sesiynau coginio ac wedi dysgu cymaint – sut i goginio prydau blasus heb wario pob ceiniog a gwerthfawrogi coginio bwyd ffres yn hytrach na thaflu rhywbeth sydyn i'r microdon.

“Dw i hefyd wedi dysgu bwyta’n llawer iachach, sy’n hanfodol i mi yn fy ngyrfa fel hyfforddwr crefftau ymladd, a dysgu am y gwahanol grwpiau bwyd, a’u manteision i’n cyrff. Mae'r dosbarth wedi newid fy arferion bwyta, ac wedi gwneud i mi fod eisiau dysgu mwy ac ymchwilio’n ddyfnach."

Ychwanegodd: “Dw i’n argymell y cwrs yn gryf, ac yn edrych ymlaen at ymuno â’r dosbarth nesaf unwaith y bydd yn ailddechrau ym mis Medi. Diolch i’n tiwtoriaid gwych – Louise a Cassie – am rannu gwybodaeth werthfawr gyda ni i gyd.”

Dywedodd Louise Howe: “Mae ein dosbarthiadau coginio cymunedol anffurfiol yn ffordd wych o ddatblygu eich hyder yn y gegin, i goginio prydau o’r newydd ac i leihau eich dibyniaeth ar fwydydd sydd wedi’u prosesu’n helaeth.”

Ychwanegodd: “Rydyn ni'n dangos i chi pa mor hawdd yw coginio bwyd maethlon a blasus ar gyllideb. Mae'r rhai a gymerodd ran hefyd yn dweud bod gwelliant cyffredinol yn eu lles. Y peth gorau yw eich bod chi'n cael mynd â'r hyn rydych chi wedi'i goginio adref gyda chi!”

I'r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn cyrsiau coginio yn y dyfodol neu ddysgu mwy am gyrsiau rhan-amser eraill Potensial, anfonwch e-bost at cymuned.menai@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01286 673450.