Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

ARDDANGOSFA GYNTAF PARC MENAI ERS DECHRAU'R PANDEMIG

Aeth myfyrwyr celf Coleg Menai ati i arddangos eu gwaith yn ddiweddar, yn yr arddangosfa gyhoeddus gyntaf ers mis Mehefin 2019.

Cafodd myfyrwyr cwrs gradd MA mewn Celfyddyd Gain gyfle i arddangos eu darnau - a oedd yn cynnwys paentiadau, printiau, cerfluniau, fideos, perfformiadau a gosodiadau - mewn arddangosfa a oedd yn agored i deulu a ffrindiau ddydd Gwener (17 Medi) ym Mharc Menai.

Roedd yr arddangosfa, 'Triptych' yn cynnwys gwaith tri o fyfyrwyr: Kate Parker, Simone Williams a Niki Cotton. Aeth pob artist ati i weithio ar eu gweledigaeth bersonol eu hunain, ac roedd y themâu a archwiliwyd yn cynnwys, y cartref, bod yn fam a'r amgylchedd.

Hon yw'r arddangosfa gyntaf i'r adran Gelf ei chynnal yn gyhoeddus ers dros ddwy flynedd oherwydd pandemig COVID-19.

Dywedodd Emrys Williams, Arweinydd Rhaglen MA mewn Celfyddyd Gain,

"Dw i'n hynod o gyffrous i weld y sioe hon o'r diwedd! Dangosodd y myfyrwyr eu bod yn gallu addasu gan weithio mewn ffyrdd newydd oherwydd y pandemig".

Llwyddodd y myfyrwyr i ddal gafael ar eu dawn greadigol ac mae'r ffaith eu bod wedi gallu creu arddangosfa uchelgeisiol heb yr angen i gyfaddawdu yn glod mawr iddyn nhw".

Mae modd gweld yr arddangosfa yn rhithwir hefyd a gallwch ddysgu mwy am y myfyrwyr a'r ysbrydoliaeth tu ôl i'w darnau. Cliciwch yma.