Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Mae'n Wythnos Lles!

Yn ystod Wythnos Lles, tynnir sylw at y gefnogaeth a'r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ledled y Grŵp.

Drwy gyfrwng y gweithgareddau cyfoethogi a gynhelir yr wythnos hon, bydd Grŵp Llandrillo Menai'n hyrwyddo'r holl wasanaethau ac adnoddau sydd ar gael i'r dysgwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael y profiadau gorau posibl mewn amgylchedd iach a diogel yn ystod eu hastudiaethau.

Amrywia'r gefnogaeth o gwnsela cyfrinachol a chyfeirio at wasanaethau pellach, i gyngor ar gadw'n heini a bwyta'n iach.

Ar bob campws, darpara'r Gwasanaethau i Ddysgwyr siop-un-stop er mwyn cynnig gwybodaeth, cymorth ac arweiniad.

Yn ogystal â'r gefnogaeth y mae'r Gwasanaethau i Ddysgwyr yn ei darparu, mae'r Hwb Lles ar-lein hefyd ar gael i bob myfyriwr.

Yn yr Hwb Lles, ceir holl raglenni iechyd a lles y Grŵp er mwyn i ddysgwyr allu eu defnyddio gartref neu yn y coleg. Mae'r Hwb ar-lein sydd ar y Porth yn ategu pedwar maes allweddol Cynllun Lles y Grŵp drwy hyrwyddo a darparu cyfleoedd a gwasanaethau i wella lles y dysgwyr yn y meysydd a ganlyn:

● Cadw'n Iach a Heini

● Lles Cymdeithasol ac Emosiynol

● Ein Hamgylchedd

● Bod yn ddiogel

Mae'r Hwb yn cynnig adnoddau fel sesiynau ffitrwydd ar-lein i annog dysgwyr i gadw'n iach ac actif, system gyfeirio ar-lein i gael cefnogaeth mentor lles, calendr lles bob mis yn cynnwys gweithgareddau, a gwybodaeth am fentrau fel y rhaglen Llysgenhadon Actif.

Mae hefyd yn cynnwys 'Arolwg Dwi'n Iawn' y Grŵp, a defnyddir yr atebion a roddir yn yr arolwg hwn yn sail i Gynlluniau Lles personol. Yn y Cynlluniau Lles, ceir awgrymiadau ynghylch hunanofal, a dyfais ddefnyddiol er mwyn i ddysgwyr allu olrhain y cynnydd y maent wedi'i wneud.

Yn ogystal, mae eitemau mislif ar gael i ddysgwyr benywaidd drwy 'Nid yw'n Rhwystr', sef ymgyrch y Grŵp i hyrwyddo urddas yn ystod mislif

Angen Siarad?

Cysylltwch â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr

Mae gan y Tîm Lles gyfeiriad e-bost penodol a gaiff ei fonitro yn ystod oriau'r coleg. Os nad ydych yn teimlo'n ddiogel, neu os hoffech siarad ag aelod o'r tîm, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at: staysafe@gllm.ac.uk

Beth am fynd i'n Hwb Lles i weld pa gefnogaeth sydd ar gael i chi fel myfyriwr?

Neu, ewch i'r Hwb Cefnogi Myfyrwyr ar y wefan