Cyn-fyfyrwraig Lefel A o'r Coleg yn cael ei Swydd Ddelfrydol gyda'r GIG
Mae cyn-fyfyrwraig Lefel A o Goleg Llandrillo wedi cael ei swydd ddelfrydol ym maes rheoli cyllid yn y GIG.
Ar ôl gorffen ei hastudiaethau Lefel A ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos cafodd Sophie Foulkes, sy'n 23 oed ac yn dod o Abergele, gynnig lle yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caer gan fynd ymlaen i gael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.
Yn fuan wedi iddi raddio cafodd un o'r llefydd prin ar Raglen Rheoli Cyllid i Raddedigion GIG Cymru.
Meddai Sophie: "Rydw i ar ben fy nigon yn fy swydd newydd. Mi ges i amser gwych yng Ngholeg Llandrillo. Roedd y darlithwyr yn y coleg yn fwy na bodlon i helpu gyda datblygiad academaidd a phersonol. Cewch yn ôl yr hyn a rowch i mewn i'ch profiad yn y coleg.
"Rhoddodd y cwrs Astudiaethau Busnes gyfle i mi ehangu fy newisiadau addysgol a'm dewisiadau o ran gyrfa. Yn sgil y cyngor gyrfaol a'r gefnogaeth oedd ar gael yn y coleg, llwyddais i fynd i'r brifysgol oedd yn ddewis cyntaf i mi a chael lle wedyn ar Raglen Rheoli Cyllid i Raddedigion GIG Cymru."
Meddai Rheolwr Maes Rhaglen Lefel A, Mynediad i Addysg Uwch, Busnes ac Addysg Coleg Llandrillo, Conor Merrick: "Rydyn ni wrth ein bodd gyda llwyddiant Sophie. Roedd hi'n fyfyrwraig dalentog a gweithgar tra oedd hi gyda ni yn Chweched y Rhyl ac mae hi'n llawn haeddu ei llwyddiant."
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lefel A, neu unrhyw gwrs arall sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo, ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.
Gwefan: www.gllm.ac.uk
E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk