Dysgwyr yn mynd o dan y boned yn Oulton Park diolch i bartneriaeth newydd NAPA
Mae'r cwmni darnau modurol wedi dechrau cydweithio â Choleg Menai, gan ddarparu darnau a gwybodaeth dechnegol i helpu myfyrwyr chwaraeon moduro i adeiladu car rali Targa
Cafodd myfyrwyr peirianneg chwaraeon moduro'r cyfle i fynd y tu ôl i'r llenni yng nghylchdaith rasio Oulton Park diolch i bartneriaeth newydd rhwng Coleg Menai a NAPA UK.
Bu'r dysgwyr ar daith o amgylch y padog a garejys y tîm, yn ogystal â chymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb gyda gyrwyr a mecanyddion a gwylio sêr Fformiwla 1 y dyfodol ym Mhencampwriaeth Fformiwla 4 Prydain.
Gwnaethon nhw hefyd wylio Pencampwriaeth Ceir Teithio Prydain a Her Sprint Porsche, a mwynhau mynediad unigryw i'r ystafell groeso VIP.
Gwahoddwyd y myfyrwyr a'r staff gan NAPA fel rhan o gydweithrediad newydd rhwng y brand darnau moduro a'r cwrs Lefel 3 Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch (Chwaraeon Moduro) ar gampws Coleg Menai yn Llangefni.
Mae siop leol NAPA yn Llangefni wedi rhoi amrywiaeth o gydrannau o ansawdd uchel i'r myfyrwyr eu defnyddio i adeiladu car rali Targa, gan gynnwys darnau brecio, crogiant a siasi a nwyddau traul injan ac ar gyfer y gweithdy. Mae Targa yn ddisgyblaeth o ralio sy'n caniatáu gwneud addasiadau bach i gar ffordd.
Bydd y dysgwyr hefyd yn derbyn hyfforddiant ymarferol a mynediad at adnoddau technegol trwy bartner NAPA, TechMate, i'w helpu i ennill sgiliau sy'n berthnasol i ddiwydiant moduro heddiw.
Byddant hefyd yn cael cyfle i fynd i weld amrywiaeth o ddisgyblaethau chwaraeon moduro fel rhan o'r bartneriaeth; yr ymweliad ag Oulton Park oedd y profiad cyntaf o lawer.
Sbardunwyd y cydweithrediad pan wahoddodd Daron Evans, arweinydd y rhaglen Chwaraeon Moduro yng Ngholeg Menai, aelodau o dîm NAPA UK i gampws Llangefni, lle gwnaeth y cwrs argraff dda arnynt.
Dywedodd Daron: “Mae'r bartneriaeth gyda NAPA yn cefnogi ein dysgwyr yma yng Ngholeg Menai mewn sawl ffordd.
“Maen nhw’n darparu darnau OE (offer gwreiddiol) o ansawdd ar gyfer ein car rali TARGA, wedi gwahodd ein dysgwyr i gefnogi eu hymgyrchoedd marchnata, ac yn fwy diweddar, wedi rhoi cyfle i’n myfyrwyr ymweld ag Oulton Park fel gwesteion NAPA Racing.
“Fe gawson nhw edrych ar geir Teithio Prydain a thrafod y manylebau technegol, yn ogystal â threulio amser gyda thîm rasio NAPA a roddodd daith o amgylch eu cyfleusterau yn y pit inni a dangos sut maen nhw fel tîm yn rheoli’r her logistaidd o symud staff, ceir ac offer.
“Yn olaf, trefnwyd sesiwn holi ac ateb gyda’u pedwar gyrrwr presennol, gan gynnwys arweinydd y bencampwriaeth.
“Mae gweithgareddau fel y rhain a drefnwyd gan NAPA a NAPA Racing yn cyfoethogi’r profiad dysgu i’n dysgwyr ac yn rhoi cipolwg iddynt ar lwybrau gyrfa posibl ar gyfer y dyfodol hefyd. Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyfleoedd hyn a'r bartneriaeth bresennol.”
Dywedodd Adam McNaney, rheolwr marchnata yn NAPA: “Rydym yn falch o gefnogi Coleg Menai i feithrin talent y dyfodol trwy gynnig adnoddau a hyfforddiant o safon.
“Mae’r bartneriaeth hon yn cyd-fynd â’n hymrwymiad i ragoriaeth a buddsoddi yn natblygiad gweithwyr proffesiynol medrus a fydd yn gwthio’r sector moduro yn ei flaen.”
Mae NAPA UK yn rhan o gwmni cyflenwi darnau byd-eang NAPA Autoparts, sydd â'i bencadlys yn yr UDA.
Hoffech chi weithio yn y diwydiant chwaraeon moduro? Mae cwrs Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch Lefel 3 (Chwaraeon Moduro) Coleg Menai yn rhoi'r sgiliau, yr hyfforddiant a'r wybodaeth dechnegol i chi ar gyfer gyrfa, prentisiaeth neu radd prifysgol yn y sector. Dysgwch ragor yma.