Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canolfan Hyfforddi Newydd yn cynnig Hwb i Ddiwydiant Adeiladu Gogledd Cymru

Mae cam nesaf cynllun uchelgeisiol ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Ngogledd Cymru wedi'i wireddu a chyfleuster hyfforddiant i sgaffaldwyr wedi'i achredu gan CIRS wedi agor ei drysau yng Nghanolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) Busnes@LlandrilloMenai yn Llangefni.

Mae'r cyfleuster gwerth £2.1 o bunnau, a dderbyniodd gyllid o gronfa Ynys Ynni Llywodraeth Cymru, yn golygu y gall Canolfan CIST yn Llangefni ehangu ei phortffolio o gyrsiau masnachol achrededig i'r diwydiant yng Ngogledd Cymru. Cyn heddiw, byddai gofyn i unigolion deithio i Ogledd neu Ganolbarth Lloegr i dderbyn hyfforddiant achrededig ar ddefnyddio sgaffaldiau.

Mae'r hyfforddiant newydd ym maes sgaffaldau yng Nghanolfan CIST yn bartneriaeth fasnachol gyda Simian Risk Management Ltd, arbenigwyr ym maes sgaffaldiau, ac mae'n golygu y gall gweithwyr aros yng Nghymru i dderbyn eu hyfforddiant.

Dywedodd Paul Bevan, Uwch Gyfarwyddwr - Datblygiadau Masnachol:

Mae achrediad canolfan sgaffaldiau CIST yw'r cwrs diweddaraf i gael ei ychwanegu at ein portffolio o hyfforddiant achrededig ar gyfer y diwydiannau adeiladu a pheirianneg.

"Yn ogystal â hyfforddiant o safon ddiwydiannol i sgaffaldwyr, mae Busnes@LlandrilloMenai yn gweithio mewn partneriaeth ag ARC Academy Holdings Ltd, Delyn Safety, Leica Geosystems Ltd a chwmnïau eraill i gynnig ystod eang o gyrsiau achrededig, yn cynnwys cyrsiau mewn diogelwch ar y safle, defnyddio peiriannau mawr, rheoli safle, ymysg cyrsiau eraill."

Daw agoriad y ganolfan sgaffaldiau newydd yn dilyn llofnodi a chyhoeddi Bargen Twf Gogledd Cymru yn ddiweddar. Mae'r Fargen yn cynnwys cynlluniau ar gyfer 14 prosiect trawsnewidiol yn yr ardal fyddai'n creu 5,000 o swyddi. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys Hwb Economi Gwledig yng Nglynllifon, Porth Caergybi, datblygiadau yn Nhrawsfynydd a Datblygiadau Tir ac Eiddo Rhanbarthol fel Safle Ysbyty Dinbych, Parc Bryn Cegin ym Mangor a Safle Strategol Bodelwyddan.

Mae CITB a Busnes@LlandrilloMenai yn cydweithio'n agos yng Nghanolfan CIST er mwyn ymateb i'r prinder sgiliau yn y diwydiant. Mae CITB yn cyllido nifer o fyfyrwyr i gwblhau hyfforddiant sgaffaldiau yn CIST er mwyn cwrdd â gofynion y diwydiant.

Meddai Steve Radley, Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi CITB:

Bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at dwf yn y diwydiant adeiladu yng Ngogledd Cymru, a bydd CITB yn cefnogi'r rhai sydd eisiau ymuno â'r diwydiant er mwyn cyflawni'r prosiectau uchelgeisiol ac ymateb i'r heriau sydd i ddod.

"Rydym yn hyderus y bydd canolfannau hyfforddi fel hon, ynghyd â'n cynlluniau i fuddsoddi rhagor yng Nghymru, yn cyfrannu at ddiwydiant adeiladu ffyniannus yn y wlad."

Bydd y ganolfan hyfforddi ym maes sgaffaldiau yn caniatáu i Ganolfan CIST, ynghyd â'u partneriaid Simian Risk Management Ltd, gefnogi datblygiad sgiliau lleol fydd yn cyfrannu at y prosiectau isadeiledd mawr.

Byddai'r cynlluniau a nodwyd yn y fargen dwf yn arwain at gyfleoedd newydd mewn cwmnïau sgaffaldiau yng Ngogledd Cymru, a bydd angen rhagor o weithwyr sgilgar i gwrdd â'r gofyn.

Bydd y criw cyntaf o naw o ddarpar-sgaffaldwyr yn dechrau ar y cwrs, dydd Llun, 1 Mawrth yn CIST. Os hoffech archebu lle ar y cwrs, cysylltwch â busnes@gllm.ac.uk neu 08445 460 460.