Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Staff adran gelf Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, yn mynd y filltir ychwanegol

Mae staff adran Celf a Dylunio CMD Dolgellau, wedi eu canmol yn ddiweddar, am eu hymroddiad i'r myfyrwyr hynny sy'n astudio gyda nhw. Yn fuan wedi'r ail gyfnod clo, mi ddaeth hi'n amlwg bod y myfyrwyr hynny ar y cwrs Celf Sylfaen, yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar offer ac adnoddau ar gyfer cyflawni eu gwaith ar y cwrs.

Dywedodd Euros Wyn Hughes, Rheolwr Maes Rhaglen, Y Celfyddydau, Cyfryngau, Iechyd a Gofal yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

"Mae dilyn cwrs celf, yn arbennig ein cwrs sylfaen, yn golygu bod disgwyl i'n myfyrwyr greu gwaith o safon ac o ansawdd. Mewn cyfnod normal, byddai gan y myfyrwyr fynediad i adnoddau ac offer yma yn y coleg er mwyn iddynt ymwneud a'i gwaith, gyda'r math o gefnogaeth a ddisgwylir gan sefydliad addysg bellach."

"Daeth hi'n amlwg yn ystod y cyfnod clo, bod rhaid i ni fel staff yr adran Gelf a Dylunio darganfod ffordd newydd o weithio a chefnogi ein myfyrwyr, o gofio bod llawer adref, yn methu gadael, ac yn methu mynd allan i brynu offer ar gyfer eu cwrs."

"Daethpwyd i benderfyniad yn fuan, bod rhaid i ni fel adran i wneud yr hyn oll oedd yn ein gallu i gefnogi'r myfyrwyr hyn, ac o hynny o beth, cafwyd cytundeb yn yr adran bod rhaid i ni ymateb yn rhagweithiol i hyn. Trefnwyd bod staff yr adran yn ymateb drwy fynd a'r offer oedd ei angen, ar unrhyw bryd yn ystod yr wythnos i gartrefi ein myfyrwyr".

"Golygai hyn bod ein myfyrwyr wedi gallu parhau i weithio drwy'r cyfnod clo, ac wedi parhau i greu gwaith celf o safon uchel iawn, a hynny o dan amodau anodd a heriol"

"Yn ychwanegol, daethpwyd i benderfyniad, y byddai staff yr adran yn mynd i nol y gwaith gan ein myfyrwyr, er mwyn gwneud unrhyw waith marcio ac asesu."

Ychwanegodd Bryn Hughes Parry, Pennaeth Cynorthwyol CMD.

"Dyma ddangos gwir werth yr addysg sydd gennym i'w gynnig yma yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Mae'r cyfnod clo wedi bod yn heriol ac yn anodd i lawer, ond mae'r math hwn o ymroddiad gan staff yn adran Celf a Dylunio Dolgellau wirioneddol i'w ganmol. Diolch i chi am osod eich myfyrwyr uwchlaw popeth arall, rydym yn hynod o ddiolchgar am eich gwaith a'ch ymroddiad i ddyfodol ein myfyrwyr".