Lansio cynllun newydd i fyfyrwyr Coedwigaeth Glynllifon.
Mae cynllun newydd wedi ei lansio gan gwmni BC Plant Health Care o dalaith British Columbia yng Nghanada i ddenu pobol ifanc i fynd draw i weithio i’r cwmni am gyfnod amhenodol.
Yn ddiweddar daeth John Marsden, sydd yn wreiddiol o Swydd Gaer, ond sydd bellach yn gweithio i’r cwmni yng Nghanada draw i siarad gyda myfyrwyr Coedwigaeth Glynllifon. Bu’n rhannu ei brofiadau o weithio yn y diwydiant, a’r cyfleoedd sydd yn agored i unrhyw fyfyriwr sydd yn dymuno gwneud yr un peth.
Mae BC Plant Health Care yn cael ei gydnabod fel un o’r cwmnïau coedyddiaeth fwyaf blaenllaw yng Nghanada. Yn gweithredu yn ardal Vancouver a Dyffryn Fraser. Gydag enw da drwy’r holl wlad am eu ffocws amgylcheddol ac addysgol.
Gan fod sgiliau coedyddiaeth broffesiynol yn brin yn y wlad, a chan nad oes modd dilyn cyrsiau Lefel 3 mewn Coedwigaeth yno. Mae diffyg gweithwyr gyda’r cymwysterau addas ar gael. Oherwydd enw da Coleg Glynllifon yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel un o’r sefydliadau addysg gorau i astudio pynciau rheoli cefn gwlad a choedwigaeth, y daeth John Marsden draw i siarad gyda myfyrwyr y coleg yn y gobaith y bydd rhai yn dymuno mynd i fyw ac i weithio i Ganada.
Dywedodd John Marsden o gwmni BC Plant Health Care.
“Fel un sydd wedi byw a gweithio gyda phobol ifanc o ardaloedd mynyddig Cymru, dwi’n gwybod bod y rhain yn bobol wydn, sydd wedi arfer gweithio yn yr awyr agored mewn amgylchedd anodd a heriol. Dwi’n sicr y byddai myfyrwyr Glynllifon yn neidio ar y cyfle i ddod i weithio mewn gwlad fel Canada, lle mae’r cyfleoedd yn ddi-ben draw yn y maes hwn”
Ar gyfartaledd, mae cyflog i berson sydd yn cychwyn fel prentis i gwmni coedyddiaeth yng Nghanada yn sylweddol uwch na’r hyn a gynigir yn y Deyrnas Unedig.
Ychwanegodd John Marsden
“Mae’r cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol yn y maes yma yn ddi-ben draw. Mae BC Plant Health Care yn gwmni anhygoel i weithio iddo, mae’r breintiau a’r cyfleoedd sydd yn agored i staff y cwmni gyda’r gorau sydd yn bodoli. Mae bywyd cymdeithasol a’r cyfle i wneud ffrindiau newydd o bob cwr o’r byd hefyd ynghlwm gyda’r holl brofiad. Ewch amdani, mae’n gyfle llawer rhy dda i’w golli.”
Dywedodd Jeff Rowland Jones, Pennaeth adran Rheoli Cefn Gwlad a Choedwigaeth, Coleg Glynllifon.
“Mi oedd cael clywed am brofiadau anhygoel John yn gweithio ac yn byw yng Nghanada wirioneddol yn agoriad llygaid i fyfyrwyr coedwigaeth Glynllifon. Mae hyn unwaith eto’n atgyfnerthu’r ffaith bod coedwigaeth a rheoli cefn gwlad yn feysydd eang iawn, a bod modd dilyn llawer o lwybrau gwahanol a diddorol wrth ddewis astudio’r pynciau yma.”
I ddysgu mwy am gyrsiau Rheoli Cefn Gwald a Choedwigaeth sydd gennym, clicia ar y linc isod.