Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Efeilliaid 16 oed yn Cipio Gwobrau ym Maes Criced Merched

Roedd yr efeilliaid 16 oed o Goleg Llandrillo yn ganolbwynt sylw yn seremoni wobrwyo Cyngor Sir Bwrdeistref Conwy wedi i'w tîm ennill cystadleuaeth criced genedlaethol i ferched.

Roedd Amy - sydd 1 funud yn hŷn - a Hannah Kennedy o Hen Golwyn yn aelodau o dîm Merched Clwb Criced Bae Colwyn a gipiodd "Wobr Tîm Chwaraeon Hyn Merched" y cyngor. Roedd y gystadleuaeth yn agored i'r holl chwaraeon, gan gynnwys rygbi merched a chrefftau ymladd merched!

Daeth y tîm yn gydradd orau yng Nghynghrair Criced Merched Gogledd Cymru gan ennill hefyd y gystadleuaeth "100 Ball cup" gyntaf erioed - fel yr unig gynrychiolwyr o ogledd Cymru - a gynhaliwyd ar faes criced Morgannwg a'r Fro. Gyda'r ddau wedi eu lleoli ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, mae Amy yn astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol L3, a Hannah, Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer L3.

Yn noson gyflwyno'r clwb, yn ogystal a bod yn rhan yn o'r tîm a dderbyniodd y brif wobr tîm, dyfarnwyd dau dlws ychwanegol i Hannah: am gymryd wicedi ac am y mwyaf o rediadau a sgoriwyd (yn y gynghrair).

Mae Amy bob amser wedi bod eisiau gweithio gyda phlant ag anableddau, ond mae ganddi hefyd ei golygon ar yrfa fel cricedwr proffesiynol. Hoffai Hannah hefyd fod yn gricedwr proffesiynol neu yn hyfforddwr criced. Meddai: "Dwi wir yn mwynhau fy amser yn y coleg. Mae'r tiwtoriaid yn gynorthwyol, mae'r gwersi wir yn ddiddorol, ac yn gyffredinol, mae'n brofiad gwych."

Mae eu brawd Matt yn astudio Lletygarwch ac Arlwyo yn y coleg. Mae o hefyd yn gricedwr brwd, cafodd ei gapio yn ddiweddar am lwyddiannau gyda thîm criced gallu cymysg. Yn olaf ond yr un mor bwysig, mae eu mam Deb yn gweithio yn y coleg fel cynorthwyydd gweinyddol.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau yng Ngholeg Llandrillo, ewch i www.gllm.ac.uk neu cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.