Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Peirianneg yn Cyrraedd Rownd Derfynol Cystadleuaeth Roboteg Genedlaethol

Mae'n bleser gan Goleg Menai gyhoeddi bod pedwar o'i ddysgwyr sy'n astudio Peirianneg ar gampws Llangefni wedi cyrraedd rownd derfynol gyntaf erioed Roboteg Ddiwydiannol yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Y pedwar dysgwr talentog yw James Hamblin a Lance Reynolds o Gaergybi, Cai Jones o Fethesda ac Axl Davies o Fodorgan.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a gwella eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.

Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rhedeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae'n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy'n cyd-fynd â WorldSkills ac anghenion economi Cymru.

Meddai Mac Jones, darlithydd Peirianneg yng Ngholeg Menai a threfnydd y gystadleuaeth: "Rydw i'n gyffrous iawn i weld y gystadleuaeth roboteg yn cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf. Mae'n gyfle i'r myfyrwyr arddangos eu sgiliau mewn amgylchedd cystadleuol.

"Rydyn ni’n falch o lwyddiant ein dysgwyr hyd yma. Maen nhw'n ddysgwyr gweithgar sydd am ddatblygu eu sgiliau ac mae ganddyn nhw ddiddordeb gwirioneddol mewn roboteg."

Ychwanegodd Arron Peel, Dirprwy Reolwr y Maes Rhaglen Peirianneg: "Am gyfle i'n myfyrwyr. Maen nhw wedi bod yn ymarfer ar ein robotiaid Fanus, a nhw rŵan ydi'r myfyrwyr cyntaf yng Nghymru i gystadlu yn rownd derfynol y gystadleuaeth Roboteg Ddiwydiannol.

"Rydym yn ffodus iawn hefyd i gael Mac Jones, un o arweinwyr y sector roboteg yng Nghymru, i ddysgu'r cymhwyster yma ar gampws Llangefni. Am gyfle gwych rydyn ni'n ei roi i'n dysgwyr."

www.gllm.ac.uk