Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr Sgiliau Byw a Gwaith, Coleg Meirion-Dwyfor yn cystadlu yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Yn ddiweddar, cafodd Damien Slaney sydd yn byw yn Nhrawsfynydd ac sydd ar ei drydedd flwyddyn ar y cwrs Sgiliau Byw a Gwaith yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, gyfle i gystadlu yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Cystadlodd Damien yn y gystadleuaeth, Darparu Bwyd, gan ddarparu, salad i gychwyn, brechdanau i ddilyn a phwdin Eton Mess i orffen.

Aseswyd Damien ar ei wybodaeth a'i sgiliau yn y meysydd canlynol: Iechyd a diogelwch, hylendid, sgiliau cyllyll, defnydd o offer, sgiliau cyflwyno a gwybodaeth am gyfuniadau blas.

Dywedodd Morfudd Richards, Cydlynydd Cwrs Datblygu Annibyniaeth a Sgiliau Byw a Gwaith yn Nolgellau.

“Mae Damien wedi gweithio'n galed ac yn gwneud ei orau bob amser. Mi roedd yn frwdfrydig ar gyfer y gystadleuaeth ac yn fanwl iawn wrth ei waith. Yr ydym fel staff yr adran yn hynod falch o'i waith.”

Mae Damien yn gobeithio parhau i ddatblygu ei sgiliau arlwyo a choginio, ac yn gobeithio symud ymlaen i weithio gyda cheffylau wedi iddo adael y coleg.

Dywedodd Bryn Hughes Parry, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion-Dwyfor.

“Mae gweld ein myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau, a’r cymorth bugeiliol sydd gan y Coleg i’w gynnig i’n myfyrwyr yn rhan ganolog o waith ac o genhadaeth Coleg Meirion-Dwyfor. Mae Damien wedi dangos dro ar ôl tro bod ganddo’r awydd i lwyddo, ac i ddysgu, ac mi rydym fel Coleg yn falch iawn ohono. Pob lwc i ti yn y gystadleuaeth Damien”