Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hyfforddwyr Academi Rygbi Coleg Llandrillo yn Arwain y Ffordd

Andrew Williams yn gwneud ei 200fed ymddangosiad i RGC ochr yn ochr â'i gydweithiwr a'i ffrind, capten tîm rygbi RGC, Afon Bagshaw

Ar ôl rhedeg i'r cae ym Mharc Eirias yn ddiweddar, Andrew Williams yw'r chwaraewr rygbi cyntaf i chwarae 200 gwaith i RGC.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf yn erbyn Merthyr yn 2012, a thrwy gyd-ddigwyddiad yn erbyn Merthyr ar gae Bae Colwyn y chwaraeodd ei 200fed gêm hefyd.

Meddai prif hyfforddwr RGC, Ceri Jones: "Roedd yn wych ein bod wedi ennill a bod Andrew wedi cyrraedd y garreg filltir o 200 gêm. Mae bod y chwaraewr cyntaf i chwarae 200 gwaith i'r clwb yn gamp aruthrol."

Wrth ei waith bob dydd, Andrew yw cydlynydd Academi Rygbi Coleg Llandrillo a chydlynydd cwrs Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 1 y coleg.

Ers dechrau ar ei swydd yn y coleg yn 2014, mae Andrew wedi hyfforddi dros 150 o ddysgwyr ac mae 30 o'r rhain wedi chwarae i dîm cyntaf RGC!

Mae manteision niferus i fod yn rhan o Academi Rygbi Coleg Llandrillo: fel aelodau o Gynghrair Colegau dan 18 URC, a gyda gemau'n cael eu darlledu ar Rygbi Pawb ar S4C, bydd y myfyrwyr yn gallu arddangos eu doniau i gynulleidfa genedlaethol a chymryd rhan mewn gemau hynod gystadleuol sy'n llawer mwy dwys a chorfforol nag unrhyw beth maent wedi ei brofi ar y lefel Dan 16. Bydd chwaraewyr yr Academi hefyd yn cystadlu yn nwy gystadleuaeth gwpan Cymdeithas y Colegau ac mewn sawl cystadleuaeth Rygbi 7 bob ochr uchel eu proffil.

Mae’r Academi Rygbi’n hyfforddi deirgwaith yr wythnos ar y cae ac yn y gampfa, dan arweiniad Andrew Williams (Prif Hyfforddwr) ac Afon Bagshaw (Hyfforddwr Cynorthwyol), ochr yn ochr â thîm cymorth RGC (Hyfforddwyr Cryfder a Chyflyru a Ffisiotherapyddion).

Yn ogystal â hyfforddi yng Ngholeg Llandrillo mae Afon Bagshaw, sydd ei hun yn un o gyn-fyfyrwyr Coleg Llandrillo a'r Academi Rygbi, yn Hyfforddi Academi dan 18 oed RGC. Ar hyn o bryd mae’r garfan dan 18 yn cynnwys 25 o chwaraewyr Academi Rygbi Coleg Llandrillo.

Ar ôl dod drwy rengoedd yr Academi yng Ngholeg Llandrillo, mae Afon wedi bod yn ffigwr blaenllaw yn RGC ers tro byd. Mae wedi cyflawni llawer yn ystod ei yrfa, gan ennill cydnabyddiaeth ryngwladol i Gymru ar lefel ieuenctid, yn ogystal â dod yn is-gapten y tîm cenedlaethol 7 bob ochr.

Meddai Afon: "Yr agwedd fwyaf buddiol ar fynychu Coleg Llandrillo oedd y ffaith bod modd i mi gyflawni cymhwyster academaidd o safon a chymryd rhan mewn rhaglen ddwys o hyfforddiant rygbi ar yr un pryd. Yn gyntaf, mae hyn yn dysteb i staff academaidd rhagorol y coleg sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu modiwlau difyr sydd wedi cael eu strwythuro'n dda.

"Yn ail, roedd y cydbwysedd rhwng gwaith unigol a gwaith grŵp, ynghyd â'r gwaith cyflwyno a'r asesiadau ymarferol, yn fy ngalluogi i wella sawl sgìl pwysig. Yn benodol, datblygodd fy hunanhyder a'm sgiliau siarad cyhoeddus o ganlyniad uniongyrchol i'r cwrs.

"Roedd yr Academi Rygbi'n rhan hanfodol o'm datblygiad fel chwaraewr. Fe wnaeth y pwyslais ar gryfder a ffitrwydd – ynghyd â'r hyfforddiant effeithiol – osod y sylfeini i mi fynd ymlaen i gyflawni. Yn ogystal, mae pwyslais sylweddol yn cael ei roi ar gynhyrchu cymeriadau crwn yn y coleg. Yn sicr, mae'r Academi Rygbi'n cyflawni hyn, gyda llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol fel hyfforddi a dyfarnu mewn cymunedau lleol. Ond yn bwysicach na dim i mi, oedd y ffrindiau da a wnes i yn yr Academi sydd dal yn werthfawr iawn i mi heddiw."

A oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o Academi Rygbi Coleg Llandrillo?

Croeso i fechgyn blwyddyn 11 sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau rygbi tra hefyd yn llwyddo'n academaidd.

Yn y bore rhagflas byddwn yn rhannu gwybodaeth am y cyrsiau a'r cymwysterau amrywiol sydd ar gael. Cewch hefyd gyflwyniad i ymarferion datblygu cryfder a ffitrwydd a chyfle i gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi sgiliau rygbi.

Rydym yn awyddus iawn i annog chwaraewyr sydd ddim yn rhan o raglen Gradd Oed y Rhanbarth (RGC D16) i ddod i'r bore agored hwn.

Bore Agored yr Academi Rygbi

23 Chwefror 2022

9:00am - 12:30pm

Campws Coleg Llandrillo - Llandrillo-yn-Rhos

I archebu lle, neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch gyda Andrew Williams:

E-bost - andrewwilliams@gllm.ac.uk

01492546666 est. 1246