Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Banc Lloegr ar Ymweliad â Choleg Menai

Cynhaliwyd sesiwn rhyngweithiol yn ddiweddar rhwng myfyrwyr cyrsiau Busnes, Teithio a Thwristiaeth o Goleg Menai a chynrychiolwyr o Fanc Lloegr.

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad diwethaf, ac er mwyn ceisio ysbrydoli pob dysgwr i gyflawni hyd eithaf eu gallu, aeth dros 30 o fyfyrwyr i'r digwyddiad a drefnwyd ar y gan Goleg Menai a Banc Lloegr.

Economi'r DU, swyddogaeth Banc Lloegr a'r Polisi Ariannol oedd rhai o'r pynciau a drafodwyd gan Stephen Hicks, Asiant Cymru a'r Athro Silvana Tenreyro, aelod o'r Pwyllgor Polisi Ariannol yn ystod y sesiwn awr o hyd.

Penodwyd Silvana Tenreyro, Athro mewn Economeg yn 'London School of Economics', yn aelod allanol o'r Pwyllgor Polisi Ariannol yn 2017. Enillodd yr Athro Tenreyro ei gradd MA a PhD mewn Economeg ym Mhrifysgol Harvard. Cyn ymuno â'r banc roedd hi'n gyd-gyfarwyddwr ac yn aelod o Fwrdd Adolygu Astudiaethau Economaidd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Merched Cymdeithas Frenhinol Economeg.

Mae Stephen Hicks wedi gweithio fel Asiant Cymru dros Fanc Lloegr ers 2015 ac mae hynny'n golygu ei fod yn teithio ledled Cymru yn ymweld â busnesau o bob math i gasglu gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad a pha heriau mae busnesau yn eu hwynebu.

Cyn y digwyddiad a gynhaliwyd yn rhithwir cyflwynodd myfyrwyr eu cwestiynau i siaradwyr ac roedd pynciau'n cynnwys effaith COVID-19, Brexit a phrinder gweithwyr ym maes twristiaeth a'r economi ehangach.

Dewiswyd y tri chwestiwn gorau gan Stephen - a'r enillwyr oedd Jennah Williams myfyriwr ar y cwrs Teithio a Thwristiaeth Lefel 3 a Lili Sheridan a Jack Roberts. Bydd y tri yn derbyn Cerdyn Anrheg Amazon.

Dywedodd Fflur Rees Jones, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Menai, "Roedd yn sesiwn gwych a defnyddiol iawn i'n dysgwyr. Rydym yn ddiolchgar iawn i Fanc Lloegr am eu hamser ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio.

Meddai Stephen Hicks, "Roedd hi'n wych i fod yn rhan o ddigwyddiad arall bel roedd cyfle i aelod o'r Pwyllgor Polisi Ariannol siarad yn uniongyrchol â dysgwyr yng Ngogledd Cymru. Roedd yn gyfle gwych i fyfyrwyr Coleg Menai a dw i'n siŵr bod sylwadau treiddgar Silvana Tenreyro wedi bod o fudd mawr i'r myfyrwyr.

Ychwanegodd Silvana Tenreyro, "Roedd hi'n braf cael ymweld â Choleg Menai. Ces i fy mhlesio'n fawr gan gwestiynau treiddgar myfyrwyr"

I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol gyrsiau Busnes a Theithio a Thwristiaeth sydd ar gael yng Nghrŵp Llandrillo Menai, cliciwch ar ein gwefan: gllm.ac.uk