Cyn myfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn ennill Medal Ddrama'r Urdd.
Miriam Elin Sautin o Lanbedrog ym Mhen Llŷn yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2020-21.
Bu Miriam yn astudio lefel A mewn Ffrangeg, Hanes, Cymraeg a Saesneg ar gampws Pwllheli rhwng 2012 – 2014. cwblhaodd radd mewn Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Durham.
Treuliodd ddwy flynedd yn dysgu Saesneg ym Mhrifysgolion Limoges a Lyon yn Ffrainc, lle'r oedd hi hefyd yn cynnig gwersi ysgrifennu creadigol.
Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Lenyddiaeth Cymru.
Trwy gydol yr wythnos hon mae Eisteddfod yr Urdd yn gwobrwyo'r holl waith cyfansoddi a chreu buddugol ddaeth i law yn 2020.
Bu'n rhaid gohirio'r Eisteddfod yn Ninbych y llynedd oherwydd pandemig Covid-19.
Yn yr un gystadleuaeth daeth un o’n myfyrwyr cyfredol Elis Siôn Pari o Aberdaron yn drydydd.
Fel rhan o’r wobr bydd Miriam ac Elis gwahoddiad i gymryd rhan yng Nghwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, y ganolfan ysgrifennu genedlaethol.
Dywedodd Llinos Gerallt a Sian Naiomi, beirniaid y gystadleuaeth.
"Fe hawliodd y ddrama hon ein sylw o'r dudalen gyntaf.
"Mae'r berthynas rhwng dwy ffrind yn gymhleth a chyfoethog, gyda'r plot yn datblygu'n gelfydd wrth inni dyrchu i'w gorffennol.
"Drama sy'n llawn dirgelwch ac amwynder gyda diweddglo cryf. Mae cymhlethdod a blerwch bywyd i gyd yma.
"Mae'r dramodydd hefyd yn fardd, ond yn gofalu nad yw'r farddoniaeth yn tarfu ar lif a thempo'r ddrama."
Dywedodd Bryn Hughes-Parry, Pennaeth Cynorthwyol, Coleg Meirion-Dwyfor.
“Mae gan Goleg Meirion-Dwyfor hanes hir ac anrhydeddus o feithrin enillwyr cenedlaethol mewn rhai o brif gystadlaethau llenyddol ein gwlad. Mae llwyddiant Miriam ac Elis yn rhan o’r traddodiad anrhydeddus hwn.
“Rydym fel Coleg yn estyn ein llongyfarchiadau gwresog i Miriam ac i Elis, ac yn diolch i holl staff adran lefel A Pwllheli am eu cefnogaeth ac arweiniad”
Cynhelir digwyddiad agored Coleg Meirion-Dwyfor yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae digwyddiadau agored yn gyfle i weld ein campysau a'n cyfleusterau tan gamp, i gyfarfod a'r tiwtoriaid ac i ddod i wybod rhagor am y dewis eang o gyrsiau rydym yn eu cynnig.
Er mwyn archebu lle ar ein digwyddiadau agored