Mochyn o Goleg Glynllifon, Sali, yn ennill y prif wobrau yng Ngŵyl Wanwyn Sioe Frenhinol Cymru
Mae'r moch 'Oxford Sandy and Black' a fagwyd yng Nglynllifon am y tair blynedd a hanner diwethaf wedi mwynhau mwy o lwyddiant ar Faes Sioe Frenhinol Cymru
Bu moch 'Oxford Sandy and Black' Glynllifon yn llwyddiannus yng Ngŵyl Wanwyn 2025.
Enillodd y fanwes Sali, a aned ac a fagwyd yng Nglynllifon, y wobr gyntaf yn ei dosbarth, gan fynd ymlaen i gael Cilwobr y Bridiau Moch Traddodiadol, a'i dyfarnu'r Gorau o’i Brîd.
Mae'r cyflawniad yn golygu bod Sali (enw pedigri Glynllifon Sybil 012) yn cael cystadlu yng nghystadleuaeth fawreddog Pencampwr y Pencampwyr yn Sioe Newbury yn Berkshire ym mis Medi.
Daeth brawd llawn Sali yn drydydd yn ei ddosbarth, tra bod ei chwaer lawn yn y pumed safle.
Mae hyn yn dilyn llwyddiant yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn ôl ym mis Rhagfyr, pan enillodd moch 'Oxford Sandy and Blacks' Gilwobr y Bridiau Moch Traddodiadol.
Mae staff a myfyrwyr wedi bod yn magu'r moch ers y tair blynedd a hanner diwethaf, dan arweiniad y darlithydd Astudiaethau Anifeiliaid, Sian Thomas.
Roedd y brîd bron â diflannu mor ddiweddar â 20 mlynedd yn ôl, felly roedd adran Gofal Anifeiliaid Glynllifon yn falch iawn o ennill rhagor o wobrau.
Dywedodd Sian Thomas, darlithydd mewn astudiaethau anifeiliaid: “Roedd yn fraint gallu dangos ein moch hyfryd eto yng Ngŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru.
“Rydyn ni wedi bod yn cadw moch Oxford Sandy and Black ers rhai blynyddoedd erbyn hyn, ac mae'r myfyrwyr wedi mwynhau gweithio gyda nhw'n fawr. Maen nhw'n anifeiliaid hyfryd, ac yn addfwyn iawn eu natur."
Brîd domestig o Brydain yw'r 'Oxford Sandy and Black' ac mae'r moch yn adnabyddus am eu marciau nodweddiadol, eu natur addfwyn a'u gallu i fagu'n dda. Ar ben hynny, mae'r cig a gynhyrchir ohonynt yn flasus tu hwnt ac o ansawdd uchel.
Drwy'r rhan fwyaf o'r 20fed ganrif roedd y niferoedd yn isel iawn - ac roedd ambell flwyddyn yn yr 1940au pan na chofrestrwyd mwy nag un baedd newydd.
Ychwanegodd Sian: “Mae ailddechrau ffermio'r brîd yma ym Mhrydain wedi bod yn daith hir ac anodd, felly mae wedi bod yn braf iawn cael llwyddiant yn y Ffair Aeaf a'r Ffair Wanwyn.
Mae'n gymaint o anrhydedd i ni fel coleg.”
Mae adran Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol Coleg Glynllifon yn datblygu sgiliau a gwybodaeth ym maes iechyd a lles anifeiliaid, hyfforddi anifeiliaid, magu anifeiliaid, maetheg anifeiliaid, paratoi anifeiliaid a rheoli busnes.
Hoffech chi weithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid? Mae Coleg Glynllifon yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau. Dysgwch ragor yma.