Myfyrwyr yn codi bron i £600 ar gyfer Mind Conwy
Myfyrwyr Gradd Sylfaen Rheolaeth Busnes Coleg Llandrillo yn cefnogi'r elusen iechyd meddwl wrth gwblhau her arweinyddiaeth
Llwyddodd myfyrwyr o Goleg Llandrillo i godi bron i £600 ar gyfer Mind Conwy drwy gwblhau taith gerdded noddedig 15 milltir o hyd o amgylch Llyn Brenig.
Penderfynodd myfyrwyr cwrs Gradd Sylfaen Rheolaeth Busnes gefnogi'r elusen iechyd meddwl ar ôl cael y dasg o gwblhau her arweinyddiaeth fel rhan o'u cwrs.
Fe wnaethon nhw drefnu a hyrwyddo taith gerdded o amgylch Llyn Brenig a Chronfa Ddŵr Alwen gerllaw, gan sefydlu tudalen JustGiving sydd hyd yn hyn wedi codi £589 ar gyfer Conwy Mind. Gallwch gyfrannu yma.
Ymunodd y darlithwyr, Victoria Prince a John Speakman, a staff Mind Conwy gyda'r myfyrwyr ar y daith. Llwyddon nhw i gwblhau’r daith gerdded anodd mewn pum awr a hanner ar ddiwrnod poeth gyda stormydd mellt a tharanau yn bygwth.
Roedd Loren Williams ac Emma Orr ymhlith y myfyrwyr a drefnodd ac a gymerodd ran yn y daith gerdded.
Dywedodd Loren: “Mae pawb yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl ar ryw bwynt ac mae'n dal i fod yn bwnc tabŵ weithiau, felly roedden ni eisiau codi ymwybyddiaeth. Mae'n elusen wych, ac rydyn ni'n gobeithio codi rhagor o arian dros yr haf.”
Meddai Emma: “Mae’n rhaid i ni gwblhau her arweinyddiaeth bob blwyddyn, i ddangos sgiliau trefnu, cyfathrebu, arweinyddiaeth a rheoli. Roedd pymtheg milltir yn bell ond roedd Kieran o Mind Conwy yn dywysydd da iawn. Dw i ddim yn meddwl y bydden ni wedi gallu cwblhau'r her hebddo!”
Gwnaeth y myfyrwyr hefyd drefnu stondin gwerthu cacennau a chasgliad bwcedi yn y Bistro ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos i godi rhagor o arian, ac maen nhw'n gobeithio cerdded i gopa'r Wyddfa'r flwyddyn nesaf.
Dywedodd Kieran Davenport, swyddog codi arian ac ymgysylltu cymunedol ar gyfer Mind Conwy: “Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i’r myfyrwyr am eu hymdrechion i godi arian dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
“Mae codi arian yn ymdrech mor werth chweil, a dw i'n falch o glywed eu bod nhw wedi mwynhau’r profiad. Roedd hi’n hyfryd gweithio mor agos gyda grŵp gwych o bobl, a dw i'n edrych ymlaen at eu gweld nhw i gyd eto yn y dyfodol. Roedden nhw i gyd yn andros o benderfynol!”
Mae Mind Conwy yn elusen iechyd meddwl annibynnol sy’n gweithio yn siroedd Conwy, Ynys Môn a Gwynedd. Mae'n un o Elusennau Partner Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer 2024/25, ynghyd â Mind Dyffryn Clwyd, sy'n cefnogi pobl yn Sir Ddinbych.
Ychwanegodd Kieran: “Mae’r arian a godir yn hanfodol ar gyfer yr hyn y gallwn ei gynnig yn Mind Conwy, ond yn yr un modd, mae codi ymwybyddiaeth yr un mor bwysig. Hyd yn oed ar y daith gerdded, cafodd llawer ohonon ni sgyrsiau am ein hiechyd meddwl a'r ymdrechion i ddod â'r stigma sy'n gysylltiedig â hynny i ben. Byddwn ni yn Mind yn parhau i gefnogi pawb yn ein cymuned, ond ni allwn wneud hynny heb y gefnogaeth yma. Diolch Coleg Llandrillo."
Meddai John Speakman, darlithydd ar y cwrs Gradd Sylfaen Rheolaeth Busnes: “Y myfyrwyr a gymerodd yr awenau i yrru’r prosiect hwn ymlaen. Nid yn unig y gwnaethon nhw gymhwyso eu sgiliau arweinyddiaeth a ddatblygwyd ar y modiwl Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth i Raddedigion i wireddu'r prosiect, cawsant hefyd gyfle i ddysgu strategaethau codi arian rhagorol gan dîm Mind Conwy ar y modiwl Iechyd a Llesiant yn Gysylltiedig â Gwaith.”
Ychwanegodd Victoria Prince, darlithydd Busnes arall: “Mae’r cyfle i ymgorffori sgiliau galwedigaethol yn ein rhaglenni gradd busnes yn cynnig llawer o fanteision. Mae myfyrwyr yn gwella eu cyflogadwyedd drwy ddatblygu'r wybodaeth a'r profiad ymarferol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a gallant ychwanegu'r rhain at eu CVs a'u ceisiadau am swyddi, gan greu cysylltiad cryfach â'r farchnad swyddi.
“Mae cael y cyfle i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol i ddatblygu sgiliau galwedigaethol wedi arwain at gyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith lle gall myfyrwyr ddod yn hyfedr mewn sgiliau ymarferol, gan hybu hyder a hunan-barch, ac arwain at lwyddiant gyrfaol gwell.”
Wrth iddynt ddod at ddiwedd blwyddyn gyntaf y cwrs gradd, mae Emma a Loren yn edrych ymlaen at ddatblygu eu sgiliau ymhellach mewn busnes, arweinyddiaeth, marchnata, rheoli prosiectau a mwy.
Dywedodd Loren: “Mae’n bendant yn werth chweil. Dw i'n defnyddio'r holl sgiliau rydyn ni wedi'u dysgu yn fy ngwaith, felly mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn."
Ychwanegodd Emma: “Dw i wrth fy modd â’r cwrs - mae’r flwyddyn gyntaf wedi hedfan heibio. Os oes unrhyw un yn amau a ddylent wneud y cwrs, stopiwch amau ac ewch amdani. Dw i wedi mwynhau pob munud o'r cwrs ac yn edrych ymlaen yn arw i ddod yn ôl ym mis Medi.”
Mae cwrs Gradd Sylfaen Rheolaeth Busnes Grŵp Llandrillo Menai yn addas i unrhyw un sy'n awyddus i ddatblygu ymhellach yn eu sefydliad presennol, ennill sgiliau mewn rheolaeth neu ddechrau eu busnes eu hunain. Gwnewch gais ar gyfer mis Medi 2025 neu dysgwch ragor yma